To read this page in English, click here.
Bydd Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal ddydd Iau, 4ydd Gorffennaf.
Pam bod hyn o bwys i fyfyrwyr? Bydd ein dyfodol yn cael ei adeiladu gan fyfyrwyr a phobl ifanc heddiw. Ond dim ond os ydyn nhw’n Troi i Fyny a gwneud i'w pleidlais gyfrif mewn etholiadau.
Pan fo gwleidyddion yn gwneud penderfyniadau, maent yn edrych ar bwy sydd ar y gofrestr etholiadol a phwy sy'n pleidleisio. Felly mae'n hanfodol bod pob person ifanc a myfyriwr wedi cofrestru i bleidleisio.
Mae yna rwystrau newydd a fydd yn ei gwneud yn anoddach i fyfyrwyr a phobl ifanc bleidleisio. Mae bellach yn anghyfreithlon i brifysgolion a cholegau gofrestru myfyrwyr fesul bloc, a bydd yn rhaid i bob pleidleisiwr ddangos ID â llun pan fyddant yn pleidleisio.
Felly mae UCM y DU, Cyngor Ieuenctid Prydain, Generation Rent a Democracy Classroom wedi ymuno i lansio Trowch i Fyny, yr ymgyrch cofrestru pleidleiswyr ifanc a myfyrwyr fwyaf erioed. Gallwch weld ein hadnoddau trwy glicio ar y botymau isod.
Beth allwch chi ei wneud i baratoi ar gyfer Troi i Fyny a phleidleisio
Partneriaid ymgyrchu
Rydyn ni eisiau i Trowch i Fyny fod yr ymgyrch cofrestru myfyrwyr a phleidleiswyr ifanc fwyaf erioed, felly rydyn ni'n partneru â sefydliadau i helpu â lledaenu'r gair!
Cyngor Ieuenctid Prydain (BYC) |
Generation Rent |
Democracy Classroom |
Elusen UCM |
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn partneru ag UCM y DU ar gyfer yr ymgyrch Trowch i Fyny, e-bostiwch [email protected]