To read this page in English, click here.

 

Ar y dudalen hon cewch wybodaeth am sut i bleidleisio yn bersonoltrwy'r post neu trwy ddirprwy (anfon rhywun i bleidleisio ar eich rhan).

 

Gwybodaeth i fyfyrwyr ar bleidleisio yn bersonol

 

Ble dylwn i bleidleisio?

Rydych chi'n pleidleisio'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio, sy'n tueddu i fod yn adeilad cyhoeddus fel ysgol, canolfan gymunedol neu neuadd leol.

Caiff cerdyn pleidleisio ei anfon atoch cyn etholiad neu refferendwm yn dweud wrthych ble mae eich gorsaf bleidleisio.

Byddwch ond yn gallu pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio ar eich cerdyn pleidleisio. Nid oes rhaid i chi fynd â'ch cerdyn pleidleisio gyda chi, ac rydych chi’n dal i allu pleidleisio os ydych chi wedi colli eich cerdyn pleidleisio.

 

Am faint o'r gloch y dylwn i bleidleisio?

Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ar ddiwrnod etholiad neu refferendwm.

Cyn belled â'ch bod chi yn y ciw i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio erbyn 10pm, byddwch yn cael pleidleisio.

 

Beth ddylwn i ei wneud yn yr orsaf bleidleisio?

Bydd staff yn yr orsaf bleidleisio yn gofyn am eich enw a’ch cyfeiriad. Mewn rhai etholiadau a refferenda, gan gynnwys Etholiadau Cyffredinol, bydd angen i chi ddangos ID â llun i gadarnhau pwy ydych chi.

Byddwch yn derbyn papur pleidleisio sy’n cynnwys rhestr o'r bobl, y pleidiau neu'r opsiynau y gallwch chi bleidleisio drostynt.

Bydd cyfarwyddiadau ar frig y papur pleidleisio ac ar hysbysiadau yn yr orsaf bleidleisio ar sut i lenwi eich papur pleidleisio.

 

A fydd angen ID â Llun arnaf?

Bydd, dyma'r Etholiad Cyffredinol cyntaf lle bydd angen i bleidleiswyr ddangos ID â llun cyn cael pleidleisio. 

Gallwch ddod o hyd i restr lawn o ID pleidleisiwr sy’n dderbyniol ym mhob gwlad yn y DU trwy'r Comisiwn Etholiadol yma.

Mae'r rhain yn cynnwys: Pasbort, Trwydded Yrru, Bathodyn Glas, cerdyn PASS, Tystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr a mwy. Ni dderbynnir cardiau PASS yng Ngogledd Iwerddon - gallwch ddod o hyd i restr o ddogfennau adnabyddiaeth sy’n dderbyniol yng Ngogledd Iwerddon yma.

Mae angen i'r ID â llun fod y fersiwn wreiddiol ac nid llungopi.

 

Ni fyddaf yn gallu pleidleisio yn bersonol - beth ddylwn i ei wneud?

Edrychwch ar ein canllawiau ar gyfer pleidleisio trwy'r post neu bleidleisio trwy ddirprwy (gwneud cais i rywun arall bleidleisio ar eich rhan).

 

Gwybodaeth i fyfyrwyr ar bleidleisio trwy’r post

 

Sut mae pleidleisio trwy'r post?

Mae'n rhaid i chi wneud cais am bleidlais bost os ydych chi am bleidleisio trwy'r post.

Mae’n bosib y bydd myfyrwyr am wneud cais am bleidlais bost os ydych am bleidleisio yn eich cyfeiriad cartref, ond eich bod yn byw yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor, neu i'r gwrthwyneb.

Efallai y byddwch hefyd am bleidleisio trwy'r post os ydych allan o'r wlad ar ddiwrnod etholiad neu refferendwm. Nid oes angen i chi roi rheswm oni bai eich bod yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon.

 

Sut mae gwneud cais am bleidlais bost?

Gallwch wneud cais am bleidlais bost ar-lein neu trwy'r post. Os ydych yn bwriadu pleidleisio trwy'r post yng Ngogledd Iwerddon, defnyddiwch y ffurflen hon.

Gallwch wneud cais am bleidlais bost ar gyfer A) un etholiad ar ddyddiad penodol, B) cyfnod penodol os ydych am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, neu C) hyd at dair blynedd

 

Gwybodaeth i fyfyrwyr ar bleidleisio trwy ddirprwy

 

Beth yw pleidleisio drwy ddirprwy?

Pleidleisio trwy ddirprwy yw ble rydych yn gofyn i berson yr ydych yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan mewn etholiad neu refferendwm.

Dim ond o dan rai amgylchiadau y gallwch wneud cais am bleidlais trwy ddirprwy, gan gynnwys:

  • Byddwch chi dramor neu i ffwrdd o'ch etholaeth gartref ar y diwrnod pleidleisio
  • Rydych wedi'ch cofrestru fel pleidleisiwr tramor
  • Mae gennych chi broblem feddygol neu anabledd
  • Ni allwch bleidleisio yn bersonol oherwydd ymrwymiadau gwaith neu wasanaeth milwrol

 

Sut mae gwneud cais am bleidlais trwy ddirprwy?

Gallwch wneud cais am bleidlais trwy ddirpwy ar-lein neu trwy'r post. Os ydych yn bwriadu pleidleisio trwy'r post yng Ngogledd Iwerddon, defnyddiwch y ffurflen hon.

Rhaid i chi wneud cais am bleidlais trwy ddirprwy erbyn 5pm 6 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ac erbyn 5pm 14 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon.

 

Pwy all weithredu fel dirprwy i mi?

Gall unrhyw un weithredu fel eich dirprwy cyhyd â'u bod A) wedi cofrestru i bleidleisio, B) yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad neu'r refferendwm sy'n cael ei gynnal, a C) yn gallu pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar eich cerdyn pleidleisio.

Bydd angen i'ch dirprwy fynd â’u ID â llun eu hunain gyda nhw os oes angen hynny yn yr etholiad hwnnw.

Os na allant gyrraedd yr orsaf bleidleisio ar eich cerdyn pleidleisio, gallant gysylltu â'ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol i drefnu bwrw eu pleidlais trwy ddirprwy trwy'r post.

 

A allaf newid neu ganslo fy mhleidlais trwy ddirprwy?

Gallwch newid neu ganslo pwy sy'n gweithredu fel eich dirprwy trwy gysylltu â'ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.

 

Mwy y gallwch chi ei wneud i baratoi ar gyfer Troi i Fyny

 

Partneriaid ymgyrchu

Rydyn ni eisiau i Trowch i Fyny fod yr ymgyrch cofrestru myfyrwyr a phleidleiswyr ifanc fwyaf erioed, felly rydyn ni'n partneru â sefydliadau i helpu â lledaenu'r gair!

Cyngor Ieuenctid Prydain (BYC)

 

Generation Rent

Democracy Classroom

 

Elusen UCM

 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn partneru ag UCM y DU ar gyfer yr ymgyrch Trowch i Fyny, e-bostiwch [email protected]