To read this page in English, click here.

Mae etholiadau lleol yn cael eu cynnal yng Nghymru a Lloegr ddydd Iau 2il Mai 2024.

 

Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr a’ch bod yn gymwys i bleidleisio, bydd o leiaf un etholiad lleol i chi bleidleisio ynddo.

Gallwch ddefnyddio teclyn syml y Comisiwn Etholiadol i ddarganfod a oes etholiad yn eich ardal ar 2il Mai.

 

Etholiadau yn Lloegr

  • Bydd pleidleisio’n digwydd ar gyfer 10 maer metro ar draws Lloegr.
  • Mae etholiadau’n cael eu cynnal mewn 107 o ardaloedd cyngor yn Lloegr - mae hynny tua thraean o’r holl ardaloedd cyngor.
  • Cynhelir etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu ym mhob un o'r 33 ardal heddlu yn Lloegr.
  • Mae pob un o'r 25 sedd yng Nghynulliad Llundain yn cael eu hethol hefyd.

Cliciwch yma i ddarganfod pa etholiadau sy'n cael eu cynnal yn eich ardal chi.

 

Etholiadau yng Nghymru

  • Cynhelir etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu ym mhob un o'r pedair ardal heddlu yng Nghymru.

Cliciwch yma i ddarganfod pa etholiadau sy'n cael eu cynnal yn eich ardal chi.

 

A fydd angen ID â Llun arnaf?

Bydd pob un o'r etholiadau a gynhelir yng Nghymru a Lloegr yn ei gwneud yn ofynnol i bleidleiswyr ddangos ID â llun. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ID â Llun.

 

Oes angen i mi gofrestru i bleidleisio?

Oes, mae angen i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio i allu pleidleisio mewn unrhyw etholiad yn y DU. Cliciwch yma i gofrestru i bleidleisio.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau hyn yw 11:59pm ddydd Mawrth, 16eg Ebrill.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth i fyfyrwyr ar gofrestru i bleidleisio.

 

Pa mor hen sydd angen i mi fod i bleidleisio yn yr etholiadau hyn?

Yr oedran pleidleisio isaf ym mhob un o'r Etholiadau Lleol a gynhelir ar 2il Mai yw 18.

Os cawsoch eich geni ar neu cyn 2il Mai 2006 ac yr ydych yn gymwys i bleidleisio yn ôl eich cenedligrwydd, byddwch yn gallu pleidleisio yn yr etholiadau hyn cyhyd ag y byddwch wedi cofrestru i bleidleisio.

 

Mwy y gallwch chi ei wneud i baratoi ar gyfer Troi i Fyny

 

Partneriaid ymgyrchu

Rydyn ni eisiau i Trowch i Fyny fod yr ymgyrch cofrestru myfyrwyr a phleidleiswyr ifanc fwyaf erioed, felly rydyn ni'n partneru â sefydliadau i helpu â lledaenu'r gair!

Cyngor Ieuenctid Prydain (BYC)

 

Generation Rent

Democracy Classroom

 

Elusen UCM

 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn partneru ag UCM y DU ar gyfer yr ymgyrch Trowch i Fyny, e-bostiwch [email protected]