To read this page in English, click here.

Mae angen i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio cyn i chi gael pleidleisio mewn etholiadau neu refferenda yn y DU. 

 

Mae cofrestru i bleidleisio fel arfer yn cymryd tua 5 munud, ac unwaith y byddwch chi wedi cofrestru mae'n golygu y gallwch bleidleisio mewn unrhyw etholiad neu refferendwm yn y DU yr ydych yn gymwys i bleidleisio ynddo. 

Rydym wedi nodi'r wybodaeth bwysicaf y mae angen i fyfyrwyr ei chael am gofrestru i bleidleisio. Cliciwch ar y botwm isod i gofrestru:

Sut ydw i’n cofrestru i bleidleisio?

Mae angen i chi gofrestru i bleidleisio ar wefan Llywodraeth y DU: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am gofrestru gan ddefnyddio ffurflen bapur ar y wefan hon.

Bydd gofyn i chi ddarparu eich enw, eich dyddiad geni, eich cenedligrwydd a'ch rhif Yswiriant Gwladol.

Os nad ydych yn gwybod eich rhif Yswiriant Gwladol, gallwch gael cymorth i ddod o hyd iddo yma: https://www.gov.uk/rhif-yswiriant-gwladol-coll  

 

A allaf fod wedi fy nghofrestru i bleidleisio mewn mwy nag un cyfeiriad?

Caniateir i fyfyrwyr gofrestru i bleidleisio mewn mwy nag un cyfeiriad os ydynt yn ystyried y ddau le yn gartref parhaol.

Gwyddom fod myfyrwyr yn aml yn rhannu eu hamser rhwng eu cyfeiriad yn ystod y tymor a'u cyfeiriad cartref, felly mae'n bwysig eich bod wedi cofrestru yn y ddau.

Er y gallwch fod wedi cofrestru mewn mwy nag un cyfeiriad, mae’n anghyfreithlon pleidleisio mewn dau le - felly mae'n rhaid i chi ddewis pa gyfeiriad i bleidleisio ynddo.

 

Rydw i wedi symud tŷ yn ddiweddar, oes rhaid i mi gofrestru i bleidleisio eto?

Mae'n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio bob tro y byddwch yn newid cyfeiriad.

Gwyddom fod myfyrwyr yn newid cyfeiriad yn fwy na'r rhan fwyaf o bobl, felly mae'n bwysig bod myfyrwyr yn gwirio eu bod nhw wedi cofrestru i bleidleisio.

Mae hefyd angen i chi gofrestru eto os ydych chi wedi newid eich enw neu genedligrwydd.

 

Pa oedran sydd rhaid i mi fod i gofrestru i bleidleisio?

Mae rheolau gwahanol ynghylch yr oedran pleidleisio isaf mewn gwahanol etholiadau yn y DU.

Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon rhaid i chi fod yn 16 oed neu drosodd i gofrestru i bleidleisioond yng Nghymru a'r Alban rhaid i chi fod yn 14 oed neu'n hŷn.

Mae hyn oherwydd mai’r oedran pleidleisio isaf mewn rhai etholiadau yng Nghymru a’r Alban yw 16, o gymharu â 18 yng ngweddill y DU. Yr oedran pleidleisio isaf mewn Etholiadau Cyffredinol yw 18.

 

Dydw i ddim yn ddinesydd Prydeinig. A allaf gofrestru i bleidleisio?

Does dim rhaid bod yn ddinesydd Prydeinig i bleidleisio yn etholiadau neu refferenda'r DU.

Mae yna reolau gwahanol ynghylch a allwch chi bleidleisio yn dibynnu ar eich cenedligrwydd, ar gyfer gwahanol etholiadau yn y DU.

Defnyddiwch y teclyn hwn i ddarganfod pa etholiadau y gallwch chi bleidleisio ynddynt: https://canivote.org.uk/

 

 A oes dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio?

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio mewn etholiad neu refferendwm yn y DU fel arfer yw 12 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.

Er enghraifft, y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr ddydd Iau, 2il Mai yw dydd Mawrth, Ebrill 16eg.

Gallwch gofrestru i bleidleisio tan 23:59 ar y dyddiad cau.

 

A oes manteision eraill yn perthyn i fod wedi cofrestru i bleidleisio?

Gallai bod wedi cofrestru i bleidleisio wella eich sgôr credyd, oherwydd bod banciau a benthycwyr eraill yn aml yn defnyddio'r Gofrestr Etholiadol i helpu wrth gadarnhau pwy ydych chi.

Gallai hyn helpu pan ddaw i bethau fel trefnu contract ffôn symudol, yn enwedig os nad oes gennych chi hanes credyd hir.

Gallai fod o gymorth hefyd os ydych yn bwriadu prynu car, rhentu, neu hyd yn oed cael morgais.

 

Rwyf eisoes wedi cofrestru i bleidleisio. Beth arall sydd angen i mi ei wybod?

Mae deddfau newydd yn golygu bod rhaid i chi nawr ddangos ID â llun i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn Etholiadau Cyffredinol yn y DU. Roedd hyn eisoes yn gyfraith yng Ngogledd Iwerddon.

Gallwch ddod o hyd i restr lawn o ID pleidleisiwr sy’n dderbyniol ym mhob gwlad yn y DU trwy'r Comisiwn Etholiadol yma.

Mae UCM wedi ymuno â CitizenCard i gynnig ID Pleidleisiwr AM DDIM (fel arfer £18) i unrhyw fyfyriwr neu berson ifanc sydd ei angen. Gallwch gofrestru ar gyfer eich Cerdyn Dinesydd (CitizenCard) AM DDIM a darganfod mwy am ID â llun isod.

 

Mwy y gallwch chi ei wneud i baratoi ar gyfer Troi i Fyny

 

Partneriaid ymgyrchu

Rydyn ni eisiau i Trowch i Fyny fod yr ymgyrch cofrestru myfyrwyr a phleidleiswyr ifanc fwyaf erioed, felly rydyn ni'n partneru â sefydliadau i helpu â lledaenu'r gair!

Cyngor Ieuenctid Prydain (BYC)

 

Generation Rent

Democracy Classroom

 

Elusen UCM

 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn partneru ag UCM y DU ar gyfer yr ymgyrch Trowch i Fyny, e-bostiwch [email protected]