To read this page in English, click here.
Mae Ymgyrch Trowch i Fyny’n cynnwys tair elfen:
- Cofrestru torfol ar gyfer myfyrwyr drwy weithdrefnau ymrestru prifysgolion / colegau a gydag ymgyrch ddigidol genedlaethol.
- Sicrhau bod gan bob myfyriwr ID pleidleisiwr a bod unrhyw fyfyriwr sydd heb un yn gallu cael un am ddim.
- Grymuso pleidleiswyr drwy godi eu lleisiau a hysbysu eu dewisiadau.
O fewn pob elfen, mae yna bethau ymarferol syml y gall UCM, Prifysgolion, Colegau, Undebau Myfyrwyr, Myfyrwyr, a Gwleidyddion eu gwneud. Fe'u rhestrir isod, ynghyd ag adnoddau y gall ein holl gefnogwyr eu defnyddio.
Ar gyfer Myfyrwyr:
- Mynnwch Gerdyn Dinesydd AM DDIM - defnyddiwch y côd 'NUS'
- Taflen Myfyrwyr Trowch i Fyny ar gyfer Etholiadau mis Mai
Adnoddau ar gyfer Undebau Myfyrwyr sy'n perthyn i UCM:
Beth allwch chi ei wneud i baratoi ar gyfer Troi i Fyny a phleidleisio
Partneriaid ymgyrchu
Rydyn ni eisiau i Trowch i Fyny fod yr ymgyrch cofrestru myfyrwyr a phleidleiswyr ifanc fwyaf erioed, felly rydyn ni'n partneru â sefydliadau i helpu â lledaenu'r gair!
Cyngor Ieuenctid Prydain (BYC) |
Generation Rent |
Democracy Classroom |
Elusen UCM |
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn partneru ag UCM y DU ar gyfer yr ymgyrch Trowch i Fyny, e-bostiwch [email protected]