To read this page in English, click here.
Bydd Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal ddydd Iau, 4ydd Gorffennaf.
Mae yna ddau beth y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu gwneud i allu pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol.
- Rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio - gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth i fyfyrwyr yma
- Mae'n rhaid i chi fod ag ID â llun* - mynnwch ID Pleidleisiwr AM DDIM o CitizenCard gan ddefnyddio'r côd 'NUS' yma
* Nid yw ID â Llun yn ofynnol ym mhob etholiad yn y DU ac mae rheolau gwahanol yn perthyn i ID â llun os ydych yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon.
Sut ydw i’n cofrestru i bleidleisio?
Mae angen i chi gofrestru i bleidleisio ar wefan Llywodraeth y DU: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am gofrestru gan ddefnyddio ffurflen bapur ar y wefan hon.
Bydd gofyn i chi ddarparu eich enw, eich dyddiad geni, eich cenedligrwydd a'ch rhif Yswiriant Gwladol.
Os nad ydych yn gwybod eich rhif Yswiriant Gwladol, gallwch gael cymorth i ddod o hyd iddo yma: https://www.gov.uk/rhif-yswiriant-gwladol-coll
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol yw hanner nos, dydd Mawrth 18fed Mehefin 2024.
Oes angen i mi gofrestru i bleidleisio eto os byddaf yn newid cyfeiriad?
Oes, mae angen i chi gofrestru i bleidleisio bob tro y byddwch yn newid cyfeiriad.
A allaf gofrestru i bleidleisio mewn dau gyfeiriad?
Gallwch, caniateir i fyfyrwyr gofrestru i bleidleisio mewn mwy nag un cyfeiriad.
Gwyddom fod myfyrwyr yn aml yn rhannu eu hamser rhwng eu cyfeiriad yn ystod y tymor a'u cyfeiriad cartref, felly mae'n bwysig eich bod wedi cofrestru yn y ddau.
Gyda'r Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal ar 4ydd Gorffennaf, mae'n fwy tebygol y bydd myfyrwyr yn byw yn eu cyfeiriad cartref yn hytrach na'u cyfeiriad yn ystod y tymor.
A fydd angen ID â Llun arnaf?
Bydd, dyma'r Etholiad Cyffredinol cyntaf lle bydd angen i bleidleiswyr ddangos ID â llun cyn cael pleidleisio.
Gallwch ddod o hyd i restr lawn o ID pleidleisiwr sy’n dderbyniol ym mhob gwlad yn y DU trwy'r Comisiwn Etholiadol yma.
Mae'r rhain yn cynnwys: Pasbort, Trwydded Yrru, Bathodyn Glas, cerdyn PASS, Tystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr a mwy. Ni dderbynnir cardiau PASS yng Ngogledd Iwerddon - gallwch ddod o hyd i restr o ddogfennau adnabyddiaeth sy’n dderbyniol yng Ngogledd Iwerddon yma.
Mae angen i'r ID â llun fod y fersiwn wreiddiol ac nid llungopi.
Pa mor hen sy'n rhaid i mi fod i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol?
Mae angen i chi fod 18 oed neu drosodd ar ddiwrnod yr etholiad i allu pleidleisio mewn Etholiad Cyffredinol.
Felly, os cawsoch eich geni ar neu cyn 4ydd Gorffennaf 2006, rydych yn gymwys i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol.
Os ydych yn byw yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon gallwch gofrestru i bleidleisio pan fyddwch yn 16 oed neu’n hŷn, ac yng Nghymru a’r Alban gallwch gofrestru pan fyddwch yn 14 oed neu’n hŷn.
Rwyf yn fyfyriwr rhyngwladol. A gaf i bleidleisio?
Bydd rhai myfyrwyr rhyngwladol yn gallu pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol.
Mae dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig a dinasyddion cymwys y Gymanwlad sy'n byw yn y DU yn cael pleidleisio mewn Etholiadau Cyffredinol.
Mae gwledydd cymwys y Gymanwlad yn cynnwys India, Pacistan, Awstralia, Sri Lanca, Canada a llawer mwy.
Cliciwch yma i weld os gallwch chi bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol.
Beth os byddaf oddi cartref ar 4ydd Gorffennaf?
Efallai y byddwch ar eich gwyliau haf ym mis Gorffennaf, neu efallai eich bod am bleidleisio yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor er eich bod gartref. Os dyna yw’r achos, gallwch wneud cais am bleidlais trwy’r post neu bleidlais trwy ddirprwy.
Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais trwy’r post yw 5pm dydd Mercher 19eg Mehefin.
Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais trwy ddirprwy yw 5pm dydd Mercher 26ain Mehefin.
Mwy y gallwch chi ei wneud i baratoi ar gyfer Troi i Fyny
Partneriaid ymgyrchu
Rydyn ni eisiau i Trowch i Fyny fod yr ymgyrch cofrestru myfyrwyr a phleidleiswyr ifanc fwyaf erioed, felly rydyn ni'n partneru â sefydliadau i helpu â lledaenu'r gair!
Cyngor Ieuenctid Prydain (BYC) |
Generation Rent |
Democracy Classroom |
Elusen UCM |
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn partneru ag UCM y DU ar gyfer yr ymgyrch Trowch i Fyny, e-bostiwch [email protected]