Paru Pleidleisiau UCM - Templed E-bost ar gyfer yr Holl Fyfyriwr

To read this page in English, click here

 

Pwnc: Ddim yn siŵr i bwy i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol?

Testun rhagolwg: Defnyddiwch y teclyn Paru Pleidleisiau i ddarganfod pa bleidiau rydych yn cytuno fwyaf â nhw

 

Helo [enw],

Ydych chi’n gwybod i bwy y byddwch chi’n pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol ar 4ydd Gorffennaf? Hoffech chi wybod ychydig mwy am bolisïau pob plaid?

Wel, mae gan UCM yr wybodaeth hon ar eich cyfer chi gyda’u teclyn Paru Pleidleisiau newydd.

Mae teclyn Paru Pleidleisiau UCM yn hawdd i’w ddefnyddio, ac mae wedi’i gynllunio i helpu myfyrwyr a phobl ifanc i weld pa bleidiau maen nhw’n cytuno fwyaf â nhw.

Botwm: Defnyddiwch declyn Paru Pleidleisiau UCM https://www.nus.org.uk/vote-matcher

Nodwch eich côd post a chewch weld polisïau'r prif bleidiau yn eich rhan chi o'r DU ar 10 o bynciau allweddol i fyfyrwyr a phobl ifanc.

Dewiswch hyd at dri pholisi yr ydych yn eu hoffi fwyaf ar gyfer pob pwnc, yna cyflwynwch eich canlyniadau i gael dadansoddiad o faint rydych chi’n cytuno â phob plaid.

Mae'n gyflym ac yn syml, a bydd yn eich helpu i ddeall yr hyn y mae'r pleidiau yn ei gynrychioli ar y materion sy'n bwysig i chi.

Defnyddiwch declyn Paru Pleidleisiau UCM heddiw a pheidiwch ag anghofio gwneud yn siŵr eich bod yn barod i bleidleisio ddydd Iau, 4ydd Gorffennaf.