‘Roedd rhai o’r trafodaethau a gafwyd ymysg undebau myfyrwyr y ymwneud â digwyddiadau meddwol megis Carnage, demograffeg cyfnewidiol myfyrwyr a sut mae angen i undebau addasu yn sgil hynny.
‘Roedd yno hefyd drafodaethau ar yr angen i fodel masnachol undebau myfyrwyr newid er mwyn addasu i newidiadau mewn patrymau gwariant myfyrwyr, yn ogystal â phwy sy’n gyfrifol am ddelio ag yfed eithafol.
Hefyd lawnsiwyd ‘Peidiwch â gadael i’ch hyfed eich diffionio’ yn y digwyddiad, sef ymgyrch gan UCMC a Her Iechyd Cymru sy’n rhoddi sylw i oblygiadau ehangach camddefnydio alcohol ymhlith ein haelodau mewn colegau a phrifysgolion yng Nghymru.
Dywedodd Dirprwy Lywydd UCMC, Lleu Williams: “Hyd y gwn i, ‘does yr un ymgyrch yng Nghymru erioed o’r blaen wedi edrych ar yr oblygiadau ehangach sy’n perthyn i yfed alcohol, megis yr effaith a gaiff ar agwedd ariannol ac addysgol bywydau myfyrwyr a’u perthynas â phobl eraill.
Er enghraifft, gall myfyriwr wario cyfran helaeth o’i fenthyciad ar nosweithiau o yfed trwm, gan effeithio ar ei allu i ymdopi’n ariannol am weddill y tymor.
‘Rydym yn awyddus i hyrwyddo yfed mwy diogel drwy ddarparu myfyrwyr â mwy o wybodaeth gadarn ynglyn ag effeithiau ehangach eu harferion yfed.
Am y tro cyntaf, mae’r ymgyrch hon yn cysylltu’r profiadau cyffredin hyn ag yfed eithafol, a thrwy ddwyn sylw at y canlyniadau, y gobaith yw y gellir mynd i’r afael â’r mater yn fwy effeithiol.