Ymgynghoriad Buddsoddi mewn Sgiliau
‘Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r ymgynghoriad Buddsoddi mewn Sgiliau sy’n cynnwys awgrymiadau ar gyfer nifer o newidiadau i gynhaliaeth myfyrwyr, gan gynnwys newidiadau i Lwfansau Cynhaliaeth Addysg.
Nododd UCMC y peryglon posibl sy’n perthyn i’r argymhellon hyn, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad i gynhaliaeth ar gyfer nifer o ddysgwyr. ’Rydym nawr yn aros am ganlyniad yr ymgynghoriad hwn.
Ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid
Mae UCMC hefyd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar i ymchwiliad Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn ag effeithiau posibl yr ‘arbedion effeithlonrwydd’ o 5% i’r gyllideb addysg yng Nghymru. Aethom ati i ddwyn sylw at yr effaith y byddai toriadau mor llym yn eu cael ar fyfyrwyr mewn addysg bellach ac uwch, ar adeg pan fo’r sector addysg eisoes yn dioddef effeithiau bwlch cyllido o gymharu â Lloegr.
Yn ystod yr ymchwiliad llafar, dywedodd y Dirprwy Lywydd, Lleu Williams: “Mae pethau wedi cael eu hymestyn i’r eithaf yn barod, felly mae’r arbedion effeithlonrwydd mae’r llywodraeth wedi galw amdanynt yn sicr o arwain at doriadau mewn dysgu ac addysgu.”
Mae copïau o’r cyflwyniadau ysgrifenedig ar gael drwy e-bostio office@nus-wales.org.uk
Gallwch wylio’r drafodaeth yn y pwyllgor ar.