News

Ymgynghoriad Buddsoddi mewn Sgiliau

Mae Llywodraeth y Cynulliad ar hyn o bryd yn ymgymryd ag ymgynghoriad ar y newidiadau posibl i’r ffordd mae Llywodraeth y Cynulliad yn cyllido hyfforddiant sgiliau yng Nghymru.  Mae hyn yn cynnwys rhan o’r arian sy’n cyllido’r sector addysg ôl-16 mewn colegau addysg bellach.

  • Find this useful?

Mae’r newidiadau arfaethedig yn cynnwys:

  • Polisi cyllido newydd sy’n canolbwyntio ar ar ddarpariaeth hyblyg ar gyfer prentisiaethau modern a chyllido ar gyfer pynciau a flaenoriaethir;
  • Diddymu’n raddol y taliadau band isel o’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (gan ddiddymu’r taliadau LCA o £10 a £20); ac
  • Ail-ffocysu’r gynhliaeth ariannol o amgylch blaenoriaethau a nodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC).

Mynychodd UCMC ymgynghoriad ar 4ydd Rhagfyr, lle cawsom gyfle i leisio ein pryderon:

  • Fod yr argymhellion yn rhy amwys i nodi gydag unrhyw fanylder faint o fyfyrwyr fydd o bosibl yn colli allan os yw cynhaliaeth ariannol yn canolbwyntio ar bynciau a flaenoriaethir ar draul cyrsiau’r brif ffrwd;
  • Fod rhaid i LCC fod yn fwy eglur ynglŷn â beth fydd y trothwy lle na fydd myfyrwyr bellach yn gymwys i dderbyn LCA, a faint o fyfyrwyr sydd mewn perygl o gael eu heffeithio;
  • Fod rhaid i LCC roddi sirwydd i fyfyrwyr, os yw’r argymhellion hyn yn cael eu gweithredu, y bydd myfyrwyr nad ydynt ar ‘gyrsiau a flaenoriaethir’ yn dal i fod yn gymwys i dderbyn yr un lefel o gynhaliaeth â myfyrwyr ar gyrsiau a flaenoriaethir, neu mae yno berygl o greu system dwy-haen sy’n seiliedig ar egwyddorion o anghydraddoldeb.

Mae UCMC yn bryderus fod yr argymhelliad hwn yn rhy niwlog i’n galluogi i nodi’r glir pwy fyddai’n cael eu heffeithio’n negyddol ac ym mha ffordd.  ‘Rydym wedi annog LlCC i drefnu cyfres o grwpiau ffocws i siarad yn uniongyrchol gyda’r myfyrwyr y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt.

‘Rydym wrthi ar hyn o bryd yn drafftio ymateb ysgrifenedig i’r ymgynghoriad hwn ac ‘rydym angen astudiaethau o achosion fel enghreifftiau.

Os ydych ar hyn o bryd yn derbyn naill ai £10 neu £20 mewn LCA, fel hoffem glywed gennych, yn arbennig i ganfod i ba ddiben y byddwch yn defnyddio’r arian yma.

Er mwyn ein darparu ag adborth ar hyn neu unrhyw agwedd arall o’r ymgynghoriad, dylech gysylltu â sophie.buchaillard-davies@nus-wales.org.uk

Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw 11eg Ionawr 2010, felly a fyddech gystal â dod i gysylltiad yn fuan.

Mae’r ymgynghoriad llawn ar gael yn.