Mae unrhyw gynnydd mewn ffioedd atodol yng ngweddill y DU yn mynd i arwain at fwlch cyllido sylweddol i fyfyrwyr, colegau a phrifysgolion yng Nghymru. Mae’n anorfod y bydd hyn yn arwain at alwadau am gynnydd mewn ffioedd dysgu yng Nghymru, rhywbeth mae UCMC yn ei wrthwynebu’n gryf.
Os ydych yn astudio yng Nghymru, mae addysg yn faes datganoledig ac o’r herwydd mae’n gyfrifoldeb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru nid San Steffan; serch hynny gallai canlyniad yr adolygiad ffioedd cyfredol yn Lloegr gael effaith negyddol ar Gymru, ac o’r herwydd mae’n hanfodol bwysig i chi gael eich darpar ymgeiswyr seneddol a’r AS hynny sy’n ail-sefyll i bleidleisio yn erbyn unrhyw gynnydd mewn ffioedd yn y senedd nesaf.
Hefyd, os yw ffioedd atodol yn cynyddu, mae gwariant cyhoeddus yn Lloegr yn degygol o ddisgyn. Byddai hyn yn golygu y byddai Cymru’n derbyn llai o arian gan Lywodraeth y DU.
Bydd cynnydd mewn ffioedd atodol yn Lloegr yn effeithio ar fyfyrwyr yng Nghymru
‘Rydym yn gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio eu pleidlais yn yr etholiad cyffredinol arfaethedig i gefnogi ymgeiswyr a fyddai’n pleidleisio yn erbyn unrhyw gynnydd mewn ffioedd yn y senedd nesaf.
Drwy arwyddo’r addewid canlynol byddwch yn helpu UCM i osod pwysedd ar ymgeiswyr i fod yn onest, ac amlinellu eu safiad ar ffioedd, gan amddiffyn myfyrwyr, colegau a phrifysgolion yng Nghymru. Byddwn hefyd yn gallu dweud wrthych sut y bydd eich hymgeiswyr yn debygol o bleidleisio ar ffioedd