Mae Cynnal Cymru yn fudiad annibynnol, sydd ddim yn gwneud elw, sy’n hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ac yn gweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad ac eraill i hybu dealltwriaeth a gweithredu ar faterion a fydd yn arwain at gymdeithas fwy cyfartal, amgylcheddol gynaliadwy a gwydn.
Bydd UCMC a Cynnal Cymru yn gweithio’n glòs dros y misoedd nesaf i annog undebau myfyrwyr unigol i ddod yn Bartneriaid Rhwydwaith drostynt eu hunain. Ni chodir tâl am ymuno a gall gynnig cyfleoedd gwych ar gyfer rhwydweithio gyda mudiadau lleol.
Yn arbennig, ‘rydym yn gobeithio gallu gweithio i greu rhwydweithiau lleol ar gyfer undebau myfyrwyr, a all ddarparu cyfleoedd gwych ar gyfer gwirfoddoli, syniadau ac enghreifftiau o arferion da, yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu prosiectau gwell a mwy cynaliadwy.
Mae UCMC yn annog ein haelodau i gyd i ymuno, naill ai fel mudiad neu’n unigol. I ymuno, dylech e-bostio Rhodri Thomas, Swyddog Datblygu, Cynnal Cymru ar rhodri@cynnalcymru.com neu fynd i’w gwefan www.sustainwales.com.