Dychmygwch beth y gallai addysg ar gyfer pobl dros 16 fod yng Nghymru. Dyna’n union beth mae ein comisiwn a arweinir gan fyfyrwyr yn ei wneud.
Gwyliwch fideo Dychmygwch Addysg.
Mae Dychmygwch Addysg yn brosiect hir-dymor sy’n mynd i ail-feddwl yn sylweddol sut mae Cymru’n darparu addysg ar ôl yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd.
Dywedodd Llywydd UCM Cymru, Stephanie Lloyd:
“Mae Cymru angen ad-drefnu addysg yn sylweddol. Ond ni all fod â system sy’n gweithio hyd nes y bydd wedi gweithio allan beth y dylai’r ad-drefniad radical yma fod. Dyna pam fod UCM Cymru’n arwain gyda Dychmygwch Addysg.
“Mae addysg ar ôl 16 oed yn gymhleth. Mae’n dipyn o gamp i ddatrys yr holl gymwysterau sydd ar gael. Wedyn ceisiwch weithio allan sut y byddwch yn talu amdanynt.
“Mae Cymru’n wahanol, a dylai fod yn gwneud addysg yn wahanol. Mae myfyrwyr yn gwybod hyn, a dyna pam fod myfyrwyr yn dod at ei gilydd i osod allan cynllun ar gyfer addysg ôl-16.”
Darllenwch araith agoriadol Stephanie ar gyfer Cynhadledd Maes Cymru.
Bydd y Comisiwn Dychmygwch Addysg yn dechrau drwy edrych yn fanwl ar dri grŵp o feddwl: addysg, lleoliad a chyflogaeth.
• Addysg – Beth mae’n ei olygu i fod â sectorau AU ac AB? Pam fod gennym ni’r ddau? Beth mae nhw’n ei gynnig? Sut ellid gwella arnynt? Sut mae’r cymwysterau’n gweddu i’w gilydd?
• Lleoliad – Ble mae addysg wedi cael ei leoli? A oes angen lleoliad daearyddol? Beth yw’r cysylltiadau trafnidiaeth? Sut ellir cysylltu addysg yn well gyda chymunedau?
• Cyflogaeth – Beth yw rôl addysg mewn cyflogaeth? Beth yw rôl busnes mewn addysg? Beth ddylai hwn fod?
Drwy ofyn cwestiynau mawr ac eang, bydd yn gosod fframwaith ar gyfer symud ymlaen.
Bydd y Comisiwn yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn rhwng Rhagfyr 2012 a Mehefin 2012.
Mae Dychmygwch Addysg yn brosiect hir-dymor. Bydd y myfyrwyr sy’n gwasanaethu ar y Comisiwn yn gweithio tuag at sefydlu ymgyrch gref ac effeithiol a fydd yn dylanwadu ar sut y bydd ein gwleidyddion a’n harweinwyr yng Nghymru’n meddwl, ac yn bwysicach na hynny, yn gweithredu ym maes addysg.