News

Stephanie Lloyd - Byw Heb Ofn

Heddiw lawnsiodd Llywodraeth Cymru eu hymgyrch Byw Heb Ofn sydd wedi ei hanelu at herio ymagweddiad pobl tuag at dreisio a chamdriniaeth yn y cartref.

By Stephanie Lloyd

  • Find this useful?

Steph Lloyd

Heddiw lawnsiodd Llywodraeth Cymru eu hymgyrch Byw Heb Ofn sydd wedi ei hanelu at herio ymagweddiad pobl tuag at dreisio a chamdriniaeth yn y cartref. Maent wedi llunio gwefan sydd â’r nod o wneud safiad yn erbyn y rheiny sy’n gyfrifol am gamdriniaeth yn y cartref, ynghyd â chynnig cefnogaeth i ddioddefwyr

Mae’r wefan hefyd yn cynnwys dau fideo maent yn bwriadu eu dosbarthu ledled Cymru, a bydd digwyddiad lawnsio heddiw yn gyfle i weld y stori o drais yn y cartref yn cael ei hadrodd drwy arddangosfa yng nghanolfan siopa Arcêd y Frenhines yma yng Nghaerdydd. Maent wedi codi lein-ddillad gyda chrysau-T yn dangos delweddau a sylwadau wedi eu creu gan oroeswyr camdriniaeth yn y cartref yng Nghymru, sy’n adrodd y straeon go-iawn am sut mae trais a chamdriniaeth wedi effeithio ar eu bywydau.

Mae’r ymgyrch hon yn rhan o strategaeth chwe-mlynedd i fynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod a chamdriniaeth yn y cartref. Mae’r Gweinidog Cymunedau, Carl Sargeant AC, wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn lledaenu’r neges nad yw trais yn y cartref yn dderbyniol a bod yno’n dal i fod gryn ffordd i fynd yn hyn o beth.

Mae’n wych gweld Llywodraeth Cymru’n gwneud safiad mor gryf yn erbyn Trais yn erbyn Menywod, yn wir ar adeg o doriadau, maent yn darparu mwy o gyllid ar gyfer yr Uned Drais yn erbyn Menywod a Chamdriniaeth yn y Cartref. Mor ddiwedar â bore yma, cefais gyfarfod gyda’u pennaeth polisi ac ‘rydym yn dechrau cynllunio nawr ar gyfer sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn adroddiad Marciau Cudd yn 2010.

O’r diwedd, darparodd Marciau Cudd y dystiolaeth ‘roeddem ei hangen i brofi fod myfyrwragedd yn cael eu heffeithio gan gamdriniaeth gymaint ag unrhyw fenywod eraill tra’u bod yn astudio, ac mewn gwirionedd mae lefelau o stelcio gryn lawer uwch ymhlith myfyrwyr na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’n wych gweld cymaint o undebau yn pasio polisïau Dim Goddefgarwch, ond ni all ddiwedd gyda chynnig yn cael ei basio mewn cyfarfod cyffredinol, mae angen iddo gael ei weithredu fel y gall beri newid gwirioneddol, gan arbed bywydau menywod ar draws ein campysau.

Am fwy o wybdoaeth, ewch i wefan Byw Heb Ofn: www.bywhebofn.org.uk

Neu am fwy o wybodaeth, gweld ag Marciau Cudd a Dim Goddefgarwch