Plaid Lafur Cymru:
• Amddiffyn cyllideb ysgolion rhag toriadau mewn gwario
• Parhau i ehangu’r cynllun Academïau sy’n annibynnol o awdurdodau lleol, annog prifysgolion i’w sefydlu yn ogystal â mudiadau peifat
• Rhoi sicrwydd i ddisgyblion ysgol o addysg un-i-un mewn Saesneg a Mathemateg os ydynt yn cwympo ar ôl
• Annog ysgolion cyfun i uno eu cyllidebau mewn cadwyni o ysgolion, er mwyn caniatáu i ysgolion cryfach i godi safonau ysgolion gwanach
• Disodli tablau cynghrair ar gyfer ysgolion gyda chardiau adroddiad ar gyfer ysgolion
• Ystyried ffyrdd o ehangu mynediad i brifysgolion, tra’n cadw ffioedd dysgu
• Cyflwyno trwyddedau i ddysgu, sy’n rhaid eu hadnewyddu, ar gyfer athrawon
Ceidwadwyr Cymru:
• Arbrofi gyda menter “ysgolion rhydd” yng Nghymru, gan roddi mwy o reaolaeth i brifathrawon dros gyllideb yr ysgol, rhannau o’r cwricwlwm, gweinyddiaeth, a disgyblaeth
• Gwirdroi penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddirwyn i ben y grant oedd yn caniatáu i fyfyrwyr o Gymru i astudio mewn prifysgolion yng Nghymru hen orfod talu ffioedd atodol
• Rhoi terfyn ar gynllun Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer brecwast am ddim i blant ysgol gynradd
• Buddsoddi’r arian a gaiff ei arbed o ganlyniad i roi terfyn ar gynnig brecwast am ddim i gau’r bwlch cyllido addysg rhwg Cymru a Lloegr
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru:
• Disodli Academïau gydag “Ysgolion a Reolir gan Noddwyr”, i’w rhedeg gan elusennau a darparwyr preifat, ond dan reolaeth awdurodau lleol, nid San Steffan
• Darparu £2.5bn ar gyfer "premiwm disgyblion" i leihau maint dosbarthiadau a rhedeg dosbarthiadau dal-i-fyny ar gyfer plant sy’n cwympo ar ôl
• Disodli’r Cwricwlwm Cenedlaethol â Hawl Cwricwlwm Sylfaenol er mwyn caniatáu i athrawon gael mwy o hyblygrwydd
• Creu Diploma Cyffredinol yn cynwys TGAU, Lefel A a chymwysterau galwedigaethol
• Creu Awdurdod Safonau Addysg i fonitro safonau ysgolion yn annibynnol o’r llywodraeth
• Cynyddu’r niferoedd o brentisiaethau, lleoedd ar gyrsiau prifysgol a chyrsiau addysg uwch galwedigaethol
• Diddymu ffioedd dysgu mewn prifysgolion dros chwe mlynedd
Plaid Cymru:
• Credant fod formiwla’r llywodraeth ar gyfer pennu gwariant cyhoeddus ar draws y DU (Fformiwla Barnett) yn anghyfiawn ac y dylid pennu mwy o gyllid i Gymru – byddent yn defnyddio’r arian ychwanegol i amddiffyn gwasanaethau addysg “rheng flaen” yng Nghymru
• Maent wedi ymrwymo o gwricwlwm blynyddoedd cynnar sy’n gosod pwyslais ar ddysgu drwy chwarae
• Maent yn gwrthnwynebu Ysgolion Sylfaenol fel mater o egwyddor
• Maent yn gefnogol i gynllun Llwybrau Dysgu 14-19 ar gyfer disgyblion Cymreig
• Byddent yn llunio strategaeth ar gyfer addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
• Maent yn gefnogol i’r syniad o gyflwyno TGAU mewn iaith fodern orfodol mewn ysgolion uwchradd
• Maent yn gefnogol i’r syniad o arholiadau SAT yng Nghymru
• Maent yn gwrthwynebu unrhyw gynnydd pellach mewn ffioedd dysgu, a byddant yn ceisio eu diddymu “fel a phan y bydd arian cyhoeddus yn caniatáu hynny”.