News

Pwyllgor Caru Cerddoriaeth Casáu Hiliaeth Cymru’n cael ei ddatgelu

Pwyllgor Caru Cerddoriaeth Casáu Hiliaeth Cymru’n cael ei ddatgelu

By Zahid Raja

  • Find this useful?

Ychydig dros fis yn ôl – helpodd Ymgyrch Myfyrwyr Croenddu UCM Cymru i lawnsio Caru Cerddoriaeth Casáu Hiliaeth Cymru. Hefyd agorwyd ceisiadau ar gyfer y pwyllgor llywio.

Dyma’r ymgeiswyr a ddewiswyd:

Andrew Tindall – Urdd Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
Mae Andrew yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n Swyddog Rhanbarthol ac yn Ddirprwy Swyddog Ymgyrchoedd gyda phlaid wleidyddol genedlaethol.
 
Aiden Ramsey – Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
Mae Aiden Ramsey yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n ymgyrchydd amgylcheddol yn gweithio ar gadwriaeth ac atebolrwydd corfforaethol.
 
Ben Meakin – Urdd Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
Ben yw Llywydd Urdd Myfyrwyr Aberystwyth. Bu’n DJ yng ngwyl Beach Break ac mae’n ymwneud cryn lawer â’r diwydiant radio.
 
Nagina Kabul – Undeb Myfyrwyr Prifysgol Morgannwg
Mae Nagina yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae hi’n ymgyrchydd gwrth-hiliaeth angerddol sydd eisoes yn cyfranogi mewn gwaith gwrth-ffasgiaeth. Mae hi eisoes wedi ymgyrchu gyda CCCH a CCCH
 
Rich Gorman – Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor
Mae Rich yn swyddog sabathol yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor – yng ngofal cymdeithasau ac ymgyrchoedd.
 
Tom Upton – Undeb Myfyrwyr Prifysgl Abertawe
Mae Tom yn swyddog sabathol yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ac yn DJ – mae ei rôl yn cynnwys datblygu cymdeithasau a gwasanaethau.

Bydd y myfyrwyr a’r swyddogion myfyrwyr hyn yn ymuno â’r pwyllgor llywio tua diwedd Awst gan helpu i gynllunio a gweithredu cyfres gyffrous iawn o ddigwyddiadau a fydd yn symud gwaith gwrth-ffasgiaeth ymlaen ac yn helpu i brif-ffrydio’r dadleuon yn erbyn hiliaeth yng Nghymru.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Zahid Raja ar: zahid.raja@nus-wales.org.uk