News

Pryder am fyfyrwyr Lefel-A wrth i ddiweithdra ymhlith bobl ifanc a chyfyngiadau ar leoedd mewn prifysgolion fwrw’n galed

Mae canlyniadau Lefel-A yn cael eu rhyddhau heddiw yng Nghymru yn erbyn cefndir o ffigurau diwethdra newydd sy’n dangos fod 1 o bob 5 o bobl rhwng 16 a 25 oed yn ddi-waith.

By UCM Cymru

  • Find this useful?
Mae ceisiadau ar gyfer y system glirio yng Nghymru yn uwch nag yng ngweddill y DU, er fod y nifer o leoedd wedi cael eu capio.
 
Mae’r nifer sy’n ymgeisio am le mewn prifysgol wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed o’r blaen, sef 669,956, wrth i ymgeiswyr geisio guro’r cynnydd mewn ffioedd o hyd at £9,000 y flwyddyn, sy’n dod ym Medi 2012.
 
Mae’n debygol y bydd canlyniadau Lefel-A heddiw yn golygu y bydd tua 250,000 o bobl yn ymgeisio am ychydig dros 40,000 o leoedd drwy’r system glirio, sy’n golygu y gallai cymaint â 210,000 golli allan.
 
Bydd llawer o fyfyrwyr Lefel-A yn wynebu’r dewis anodd o geisio canfod swyddi sy’n brin iawn, gwirfoddoli mewn swyddi di-gyflog, cymryd blwyddyn allan neu geisio lle mewn prifysgiolion dramor.

 

Mewn ymateb i’r newyddion yma, dywedodd Llywydd UCM Cymru, Luke Young:

"Mae’r canlyniadau eleni unwaith eto’n gyfle i ddathlu cyraeddiadau’r dysgwyr dawnus sydd gennym yma yng Nghymru. Dylem yn gyntaf eu llongyfarch ar yr hyn maent wedi ei gyflawni.

Mae hefyd angen i ni ystyried y miloedd o ddysgwyr, gyda chanlyniadau lefel A da, a fydd yn ei chael yn anodd canfod lle mewn prifysgol eleni. Mae’n bwysig sicrhau fod pawb yn cael y cyfle gorau i fynd i mewn i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Dylai’r wythnos hon fod ynglyn â sicrhau fod myfyrwyr yn derbyn cyngor clir a chywir i’w cynorthwyo i wneud y penderfyniad iawn ar gyfer eu dyfodol. Mae angen cefnogaeth ddigonol i sicrhau nad oes unrhyw un yn colli allan. "
 
Am fwy o gwybodaeth manwl yn glyn a canlyniadau Lefel-A yng Nghymru, cliciwch yma.