News

Prosiect Datblygiad AB

Mae’n bleser gan UCMC gyhoeddi ein bod wedi cael addewid o gyllido gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer hyrwyddo ymgysylltiad myfyrwyr mewn colegau.
  • Find this useful?

Daw’r prosiect o ganlyniad i’r Canllawiau Cyfranogiad Dwysgwyr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y Cynulliad. 

Mae’r canllawiau hyn, y cyfrannodd UCMC at eu datblygiad, yn annog holl ddarparwyr dysgu AB yng Nghymru i sefydlu eu strategaeth eu hunain ar gyfer hyrwyddo ymgysylltiad myfyrwyr yn eu coleg.

Mae hwn yn brosiect hynod o gyffrous ac mae’n gyfle gwych i Gymru symud gam ymhellach na gweddill y DU mewn ymgysylltu a chynrychioli myfyrwyr AB. 

Bydd y prosiect yn rhedeg am dair blynedd a bydd yn galluogi UCMC i gyflogi aelod staff newydd fydd yn gallu treulio ei holl amser yn gweithio ar Ddatblygiad AB. 

Bydd y swydd hon yn darparu cymorth ac arweiniad sydd ei angen ar golegau AB, undebau myfyrwyr a staff, fel bo strategaethau cyfranogiad dysgwyr yn effeithiol a’u bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r ffordd y bydd myfyrwyr yn cyfranogi mewn llywodraethu ac ansawdd eu coleg.

Fel rhan o’r prosiect, bydd UCMC yn darparu hyffordiant ar gyfer Myfyrwyr Lywodraethwyr mewn AB yn ystod y tymor newydd. 

Byddwn yn gweithio gyda ColegauCymru i ddatblygu arweiniad a chymorth i staff a rheolwyr colegau.  Gwyliwch allan am fwy o datblygiadau wrth i’r prosiect fynd rhagddo. 

Os oes gennych ddiddordeb yn y prosiect a’ch bod yn awyddus i drefnu amser gyda’r Gweithiwr Datblygiad AB newydd yn gynnar yn y fenter, e-bostiwch Rhys Dart, Swyddog Datblygu a Hyfforddi ar rhys.dart@nus-wales.org.uk neu ffoniwch swyddfa UCMC.