Dydd Iau yw’r diwrnod pryd y byddaf yn dechrau gwirfoddoli gyda Mardi Gras Caerdydd-Cymru,
sydd i’w gynal ar ddydd Sadwrn 3ydd Medi. Hwn yw’r digwyddiad LHDT mwyaf yng Nghymru, ac ‘rwyf yn wedi bod yn meddwl, ydy’r hyn sy’n digwydd yn ystod Mardi Gras yn wrthdystiad, neu a yw wedi mynd yn rywbeth masnachol, fel sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o’r DU?
Wel, beth am edrych ar rai o’r ffeithiau;
Mae Mardi Gras Caerdydd-Cymru yn ddigwyddiad a gynhelir yn Coopers Field, lleoliad sydd yng nghanol dinas Caerdydd; ni chodir tâl mynediad (serch hynny mae’r trefnwyr yn gofyn am gyfraniad gan bobl, oherwydd fod rhaid talu am y digwyddiad rywsut). Gall unrhyw un fynychu’r digwyddiad, gan nad yw ar gyfer pobl LHDT yn unig, yn wir mae wedi ei drefnu ar gyfer teuluoedd, pobl hen ac ifanc. Nid yw ar gyfer y rheiny sy’n gallu ei fforddio ’chwaith – gall unrhyw un gael mynediad i’r parc, pwy bynnag ydych chi, felly onid yw hyn yn arwydd fod y digwyddiad wedi cael ei drefnu at ddibenion masnachol?
Sut fyddech chi’n diffinio protest? Ydych chi angen gorymdaith a phobl yn sgrechian yn y strydoedd i wneud argraff? I mi, mae sawl ffurf i wrthdystiad, ac o fy mhrofiad i o Mardi Gras Caerdydd-Cymru, mae’n bosibl fod busnesau’n ei weld fel cyfle i wneud arian, a hefyd mae yno bobl sy’n ei weld fel cyfle i feddwi. Serch hynny, i mi wrth i chi gyrraedd Caerdydd yn gynnar ar y bore dydd Sadwrn hwnnw, o’r amser y byddaf yn dod oddi ar y trên, mae Caerdydd yn llawn o’r amrywiaeth o bobl sy’n ffurfio’r gymuned LHDT. Efallai nad yw ond am un diwrnod, ond mae’r diwrnod hwn yn ddiwrnod o brotest fel y gall Carerdydd weld drostynt eu hunain ein bod ni’n bodoli. Ac y gallwn fyw ein bywydau yn union fel mae nhw’n byw eu bywydau hwy.
Mae’r Ŵyl Gelfyddydol, a lawnsiwyd llynedd gan bwyllgor y Mardi Gras, yn digwydd ar draws y canol y ddinas, a’r nod yw cynnwys diwylliant LHDT mewn gwahanol sioeau, ac mae hyn yn mynd o nerth i nerth – felly unwaith eto, a yw hwn yn wrthdystiad neu’n esgus am barti? Fe gewch chi farnu ar hynny!
Felly i gloi, pa mor ddadleuol bynnag fo hyn i rai pobl, credaf mae’r pwynt yw dwyn sylw at y posiblirwydd nad protest yw Mardi Gras Caerdydd-Cymru i chi, ond i mi, dyna beth ydyw.
Mewn Balchder
Ian Morgan
Swyddog LHDT UCM Cymru