Mae’r canlyniadau’n dangos fod myfyrwragedd yng Nghymru yr un mor debygol o ddioddef aflonyddu a thrais â’u cyfoedion dros y ffin.
‘Roedd yno un gwahaniaeth arwyddocaol, sef fod myfyrwyr yng Nghymru yn dweud eu bod yn teimlo nad oeddynt yn ddiogel oherwydd goleuo annigonol a bod ar eu pennau eu hunain, yn hytrach nag ofnau ynglyn â chael eu haflonyddu neu eu bygwth.
O ganlyniad i UCMC yn rhannu’r wybodaeth hon gyda thîm Trais yn Erbyn Menywod yn Llywodraeth y Cynulliad, mae’r wybodaeth yma wedi cael ei hanfon at ddadansoddwyr Diogelwch Cymunedol ledled Cymru fel y gallant ei defnyddio fel sail i’w penderfyniadau pan fyddant yn penderfynu ar beth y dylid gwario arian Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, gan roddi ystyriaeth benodol i’r ffaith fod y rheiny o Gymru a ymatebodd yn bryderus iawn ynglyn â goleuo.
Dywedodd Swyddog Menywod UCMC Estelle Hart “Dwi’n gwybod o siarad gyda swyddogion undebau fod yno bryderon difrifol ynglyn â goleuo mewn mannau diarffordd mewn amryw o sefydliadau yng Nghymru, gan eu bod yn aml ymhell o ganolfannau poblog; mae hwn yn fater o gryn bryder i lawer o’n haelodau. Gyda thystiolaeth i gefnogi’r hyn mae swyddogion wedi bod yn ei ddweud ers blynyddoedd, y gobaith yw y byddwn yn gweld terfyn ar y duedd o awdurdodau lleol a sefydliadau yn dadlau ymysg ei gilydd ynglyn â phwy ddylai dalu am fesurau diogelwch.”
Cadwch lygad ar y wefan i weld beth yw’r camau nesaf yn ymgyrch UCMC ar y mater hwn, a chysylltwch â ni ar women@nus-wales.org.uk am fwy o wybodaeth.