Ond nid yw’r frwydr wedi cael ei hennill o bell ffordd, fel yr esbonia Lleu Williams, Dirprwy Lywydd UCMC.
Ers blwyddyn, mae UCMC wedi bod yn ymgyrchu ar ddatblygu llais dysgwyr mewn addysg bellach.
Mae strwythurau llais dysgwyr yn orfodol o fewn i ysgolion drwy’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion, ac o fewn i sefydliadau addysg uwch drwy ganllawiau llym a osodir i lawn gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd.
Ond beth yw’r sefyllfa parthed ag addysg bellach? Mae safon strwythurau llais dysgwyr yn amrwyio ledled Cymru; mae rhai yn ardderchog, mae eraill yn weddol, tra bydd rhai yn gofyn i chi beth yw llais dysgwyr, sy’n annerbyniol o ddidrefn.
Mae UCMC wedi mynd ati eleni i sicrhau fod strwythurau llais dysgwyr yn rhan annatod o golegau addysg bellach drwy Gymru gyfan.
‘Rydym wedi lobïo gweision sifil, y Gweinidog Addysg, llefarwyr addysg y prif bleidiau gwleidyddol, y corff sy’n cynrychioli colegau yng Nghymru, ac wedi mynychu cyfarfodydd sawl gweithgor a’r Adolygiad Llywodraethu Addysg Bellach.
Dyma oedd un o fy mhrif dasgau eleni, ac ‘rwyf wedi manteisio ar y cyfle i wneud gwahaaniaeth gwirioneddol i ansawdd yr addysg a gaiff ei darparu o fewn i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru.
A’r canlyniad? Arweiniad newydd sbon ar gyfer Llais Dysgwyr, y cyfrannodd UCMC yn sylweddol ato, sydd i gael ei lawnsio ar 13eg Mai eleni. O leiaf dau fyfyriwr lywodraethwr ar fwrdd corfforaethol pob coleg, wedi eu hethol gan gorff y myfyrwyr, a rhaglen hyfforddiant cenedlaethol ar gyfer y llywodraethwyr etholedig hyn er mwyn sicrhau eu bod yn gallu ymgymryd â’u swyddogaeth yn effeithiol.
Yn ogystal, rhaid i golegau AB hyrwyddo system gynrychioli gynaliadwy ac effeithiol o fewn i’w sefydliadau sy’n cynnwys y dysgwyr oll, ac mae UCMC ar hyn o bryd mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y Cynulliad parthed â phrosiect ymgysylltiad newydd er mwyn sicrhau fod yr adnoddau cywir ar gael ar gyfer y strategaethau ymgysylltiad â dysgwyr newydd a gyfwynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad.
Mae UCMC wedi cyflawni cryn lawer ar ran dysgwyr mewn AB yng Nghymru eleni, ac mae gennym le i deimlo’n falch o hynny. Ond mae yno sawl her yn ein hwynebu ni a myfyrwyr AB.
Mae’n hanfodol bwysig fod y canllawiau newydd hyn yn ffurfio rhan annatod o ddiwylliant newydd o fewn i sefydliadau addysg bellach, yn hytrach na bod yn rhywbeth sydd wedi ei ychwanegu. Rhaid i golegau sefyll i fyny ac ymgymryd â’r gwaith hwn.
Mae’n bwysig i golegau sylweddoli nad oes rhaid iddynt fynd ati i ddyfeisio’r system o’r newydd; mae yno ddigonedd o enghreifftiau o arfer da yn bodoli iddynt i’w rhannu.
Ynghyd â hyn, rhaid i Lywodraeth y Cynulliad nawr fuddsoddi yn y canllawiau newydd er mwyn sicrhau nad yw’r polisi’n methu, a’i fod yn cyflawni’r hyn sydd ei angen o ran profiad addysgol dysgwyr yn y sector addysg bellach yng Nghymru. Ni fydd UCMC yn gorffwys hyd nes y bydd hyn yn digwydd, gallaf eich sicrhau o hynny.
Lleu Williams, Dirprwy Lywydd UCMC