‘Roedd rhan gyntaf y diwrnod yn canolbwyntio ar gyflwyno canlyniadau ymchwil annibynnol oedd yn mesur boddhad dysgwyr mewn colegau ledled Cymru.
‘Roedd ail ran y diwrnod yn gyfle i lawnsio’r arolwg newydd sy’n disodli’r ymchwil annibynnol hwn, a gaiff ei gyflwyno i holl sefydliadau AB Cymru, cyn iddo gael ei gynnwys fel rhan o strategaeth newydd ar gyfer Llais Dysgwyr; helpodd UCMC i ddatblygu’r strategaeth hon.
Er fod yr ‘hen’ arolwg yn galonogol, ‘rydym yn rhagweld y byddwn yn dysgu mwy o’r fersiwn newydd hon, sy’n mynd i fwy o ddyfnder o ran profiad myfyrwyr, gan lunio rhan o ymgais ehangach i wella cyfranogiad dysgwyr mewn colegau AB.
Dywedodd Lleu Williams, Dirprwy Lywydd UCMC:
“Er mai dyddiau cynnar yw’r rhain i’r arolwg, ‘rydym yn frwdfrydig ynglŷn â’r potensial i helpu nodi meysydd y gellir gwella arnynt a chwarae rôl allweddol fel rhan o’r strategaeth newydd ar gyfer Llais Dysgwyr.
“Mae’n hanfodol, serch hynny, fod sefydliadau AB yn cydnabod yr angen i amrywio’r amrediad o ddulliau maent yn eu defnyddio i gyfathrebu â’u myfyrwyr er mwyn cael darlun cynhwysfawr o grŵp o ddysgwyr sy’n mynd yn fwyfwy amrywiaethol.
“Mae’n bwysig fod colegau yn gwneud mwy na dim ond cynnal arolygon, a bod yr amser a’r adnoddau yn cael eu hymrwymo i strategaeth llais dysgwyr effeithiol o fewn i’r colegau hyn, er mwyn sicrhau fod y sefydliad yn gwrando ar yr hyn sydd gan ddysgwyr i’w ddweud, a bod hyn yn arwain at weithredu.”