Heddiw, mae UCM Cymru yn falch o gyhoeddi enwau'r chwe choleg AB sydd wedi cael eu dewis i fod yn rhan o ail flwyddyn (yr ail gam) o Brosiect Cynrychiolaeth Myfyrwyr AB. Mae'r chwe choleg a fu'n llwyddiannus gyda'u ceisadau fel a ganlyn:
Coleg Sir Gar
Coleg Catholig Dewi Sant
Coleg Sir Benfro
Coleg Llandrillo
Coleg Menai
Coleg Ceredigion
Mae ail flwyddyn y prosiect yn dechrau'n swyddogol ar 1af Medi 2011 a chaiff y colegau AB sy'n rhan o'r prosiect eu darparu â chyngor a defnyddiau gydol y flwyddyn gan Stuart Jones, Swyddog Prosiect AB UCMC. Cytunwyd yn wreiddiol mai pum coleg fyddai'n cyfranogi eleni, ond oherwydd y nifer o geisiadau eithriadol o dda, penderfynwyd cymryd chwe choleg ymlaen.
Nododd Raechel Mattey, Dirprwy Lywydd UCMC:
"Roedd yn wych gweld cymaint o golegau yn awyddus i fod yn rhan o'r prosiect; 'roedd safon y ceisiadau mor uchel, nes ei bod yn anodd penderfynu pwy oedd yn mynd i fod yn rhan o'r cam nesaf. Credaf fod hyn yn dangos pa mor llwyddiannus mae'r prosiect wedi bod mewn cynorthwyo ac annog llais dysgwyr cryf o fewn i golegau AB Cymru, ac edrychaf ymlaen i weld sut mae'r colegau yn datblygu eu strwythurau cynrychioli dros y flwyddyn nesaf."
Cefndir y Prosiect AB - Mae'r prosiect yn parhau am dair blynedd a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Nod y prosiect yw darparu cyfle am ymyriad ar lawr gwlad i ddatblygu a chynorthwyo strwythurau cynrychiolaeth myfyrwyr priodol a chyfranogiad dysgwyr mewn colegau AB ledled Cymru. Cynhaliwyd y peilot ar gyfer y prosiect ym Medi 2010 gyda saith o golegau AB, ac maent i gyd wedi cymryd camau sylweddol mewn datblygu eu strwythurau cynrychiolaeth myfyrwyr a'r ffordd maent yn ymgysylltu â dysgwyr.
Os hoffech ddarllen mwy ynglyn â'r Prosiect AB, gweler y ddogfen sydd ynghlwm yn yr erthygl hon.