Ymgasglodd pawb tu allan i glwb nos Oceana yng nghanol dinas Caerdydd gyda phlacardiau a thaflenni yn cynnwys sloganau megis “Marciwch fy nhraethawd nid fy ngolwg” a “Na i wrthrychioli”.
Dywedodd Swyddog Menywod UCMC, Estelle Hart, a drefnodd y brotest: “Mae’r gwrthdystiad hwn yn rhan o’n hymgyrch gyfredol yn erbyn gwrthrychioli menywod. Bu cynnydd aruthrol yn y digwyddiadau hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf sy’n peri cryn bryder i ni.”
‘Roedd Ymgyrch Menywod UCMC yn awyddus i nodi nad protest yn erbyn y menywod unigol oedd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth mo hwn, a’u bod yn parchu eu hawl i gyfranogi - pob hwyl iddynt yn y gystadleuaeth.
‘Roedd y gwrthdystiad wedi ei anelu at Miss Prifysgol y DU, ac yn erbyn mudiadau sy’n ceisio elwa o drin menywod fel gwrthrychau a nwyddau.
‘Roeddynt yn protestio yn erbyn ymgais i ddod â diwydiant sy’n gosod disgwyliadau ar fenywod i gydymffurfio â safon afrealistig un-deimensiwn o harddwch i mewn i’r brif-ffrwd, ac yn erbyn y cynnydd mewn diwylliant gwrthrychau-rhyw mewn undebau myfyrwyr ledled y wlad.