Ac i’r rhai mwyaf craff yn eich plith, ydw, ‘dwi’n gadael y swydd ychydig yn gynnar, gan fy mod wedi cael cynnig swydd y buaswn yn wirion ei gwrthod. Felly mae’n ddrwg gen i ddweud hyn wrthych, YDW, dwi’n gadael gwleidyddiaeth myfyrwyr o’r diwedd, ac yn mynd i ymuno â’r byd go iawn.
Pan yr eisteddais i lawr i ‘sgrifennu’r darn yma, ‘doeddwn i ddim yn sicr os y dylai fod yn ffraeth, yn drist neu’n athronyddol wrth i mi rannu fy ngeiriau doeth gyda myfyrwyr a swyddogion myfyrwyr Cymru am y tro olaf, ond penderfynais fy mod i’n mynd i ‘sgrifennu hwn fel y gwelaf yn dda, felly ymddiheuriadau ymlaen llaw am unrhyw ‘sbwriel a ddaw allan, sy’n ddim mwy na chyffredin mae’n debyg!
Mae UCMC wedi cymryd camau sylweddol ymlaen ers i mi ddechau, a bydd yn parhau i ddatblygu a thyfu ar ôl i mi symud ymlaen. Yn fy marn i, gwelwyd newidiadau yn sylweddol yn ystod y deunaw mis diwethaf dan arweinyddiaeth Katie Dalton, ac ‘rwyf yn falch o adael mudiad sydd erbyn hyn yn ennill brwydrau ar ran myfyrwyr. ‘Rydym wedi cael ychydig o flynyddoedd llwyddiannus dros ben, a ‘dydw i ddim yn credu ein bod ni’n hanner digon da am ddweud wrth ein haelodau ein bod nin gwneud gwaith da.
Gallwn edrych ar waith Katie ar y Fframwaith Genedlaethol ar gyfer Bwrseriaethau fel enghraifft o hyn. Mae hon wedi bod yn daith heriol i’r sector AU yn gyffredinol yn ystod y flwyddyn diwethaf. Ond yn rhannol o ganlynid i waith ardderchog UCMC a Katie ei hun, drwy weithio gyda Chyngor Cyllido AU Cymru, y ddau Weinidog PADGOS (Jane Hutt a Leighton Andrews) a rhanddeiliaid eraill, mae UCMC wedi llwyddo i sicrhau Fframwaith Genedlaehtol ar gyfer Bwrseriaethau yng Nghymru. Mae hon yn fuddugoliaeth sylweddol i fyfyrwyr, sy’n golygu cydraddoldeb o ran cynhaliaeth i holl fyfyrwyr Cymru. ‘Rwyf wedi eistedd ger Katie gydol y flwyddyn, ac ‘rwyf wedi gweld sut mae hi wedi sefyll i fyny dros fyfyrwyr ac wedi ymladd dros yr hyn sy’n iawn. I mi ‘roedd gwaith UCMC ar y Fframwaith Genedlaethol ar gyfer Bwrseriaethau yn enghraifft berffaith o gynrychiolaeth myfyrwyr ar ei orau, ac ‘rwyf yn mawr obeithio y bydd y gweinidog a’r Llywodraeth yn gweld gwerth y fframwaith newydd hon, model sy’n cael ei ystyried gan yr Arglwydd Browne fel rhan o’i adolygiad o gyllido addysg uwch yn Lloegr. Oni fyddai’n wych pe bai UCMC yn cyflawni rhywbeth y bydd gweddill y DU yn ei ddilyn?
Ar y pwnc o lobïo ac ymgysylltiad, mae UCMC wedi dechrau newid sylweddol eleni o ran cynrychiolaeth AB. Mae’n wir nad oeddwn i erioed yn fyfyriwr AB, a gallai pobl honni nad wyf yn gwybod unrhyw beth am faterion AB. Nid felly o gwbl!
‘Roeddwn hefyd yn falch o lawnsio Gweledigaeth UCMC ar gyfer AB er mwyn gosod allan ble y credwn y dylai addysg colegau fynd dros y degawd nesaf. Ac yn olaf, ‘rwyf yn falch o weld ymgysylltiad myfyrwyr AB o fewn i UCMC yn tyfu yn ystod fy nghyfnod yn y swydd, a’r her ‘rwyf yn ei gosod i chi i gyd yw i gynnal y twf yma ar ôl i mi symud ymlaen.
Drwy ymgysylltu â myfyrwyr, y sector a’r Llywodraeth, mae UCMC wedi helpu i drawsnewid cynrychiolaeth AB yng Nghymru, a hynny er gwell, ac mae hyn yn rhywbeth ‘rwyf yn falch iawn ohono. Ers i mi ymgymryd â’r swydd, mae UCMC wedi gweithio’n galed gyda rhanddeiliaid megis ColegauCymru ac eraill i sicrhau cyfle ar gyfer newid gyda’r canllawiau ar gyfer Strategaeth Cyfranogiad Dysgwyr mewn AB.
Drwy ymgysyslltu a gweithio gyda phoblogaeth sy’n ffurfio bron i 70% o’n haelodaeth, mae UCMC wedi cyflawni cryn lawer gan newid y ffordd mae’r dysgwyr hyn yn ymgysylltu ac yn dysgu yn eu sefydliadau, ac ‘rwyf yn edrych ymlaen i weld y gwaith fynd o nerth i nerth dan Michaela y flwyddyn nesaf. ‘Rwyf yn falch fy mod i wedi gwirieddu pob un o’r amcanion a osodais allan ar gyfer AB eleni, ac ‘rwyf yn mawr obeithio y bydd y llwyddiant hwn yn parhau.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i diolch i rai pobl cyn i mi ymadael. Yn gyntaf i chi’r aelodaeth. ‘Rydych wedi gwneud hon yn swydd wych i mi, a hoffwn ddiolch i bob swyddog a myfyriwr ‘rwyf wedi cyfarfod â hwy, sydd wedi dod i gynadleddau neu hyfforddiant, neu sydd wedi cyfrannu at ein gwaith mewn unrhyw ffordd. ‘Rwyf wedi bod yn ffodus o gael y cyfle hwn i’ch cynrychioli ar lefel genedlaethol, ac ‘rwyf yn gobeithio eich bod yn teimlo i mi wneud gwaith da.
Yn ail, hoffwn ddiolch i’r rhandddeiliaid ‘rwyf wedi gweithio gyda hwy yn ystod fy nghyfnod yn y swydd. ColegauCymru, ac yn arbennig y Prif Weithredwr John Graystone, sydd wedi bod yn gefnogol iawn i’r gwaith ‘rydym wedi ei wneud eleni. Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl swyddogion o fewn i Lywodraeth y Cynulliad sydd wedi gweithio gyda ni ac am eu cefnogaeth mewn helpu i newid tirwedd cynrychiolaeth AB eleni.
Yn olaf, diolch o galon i bawb yn UCM ac UCMC. Mae bod yn rhan o’r PGC wedi bod yn antur, a diolch i bob un ohonoch; hefyd y staff ym mhencadlys UCM DU ac UCM yr Alban am ddygymod â’m tueddiadau Cymreig. ‘Rwyf yn sylweddoli fod fy neall i’n dipyn o her, a chredaf i chi wneud yn dda iawn yn hynny o beth!
Diolch hefyd i staff UCMC, ‘rydych chi wedi bod yn arbennig. Ni fyddem wedi gwireddu unrhyw beth eleni pe na bai am eich holl waith caled, eich hamynedd wrth ddelio â fi; mae dyled myfyrwyr Cymru i chi yn fawr. Mae’n debyg y dyliwn i ddweud diolch wrth Katie ac Estelle hefyd, sydd wedi bod yn ddraenen yn fy ystlys gyda’u cellwair parhaus, a hefyd am eu cefnogaeth ym mhopeth ‘rwyf wedi ei wneud!
Dyna’r cwbl gen i. Gobeithio fy mod i wedi cyflawni’r hyn a ddisgwyliwyd ohonof yn sytod fy nghyfnod yn y swydd; mae wedi bod yn brofiad a hanner. Y cam nesaf yw dechrau gweithio fel Swyddog Ymchwil a Pholisi gyda Chymdeithas y Byddar yng Nghymru, sy’n golygu fy mod yn un myfyriwr sy’n gallu defnyddio ei radd!
Diolch eto,
Lleu