News

Diwrnod Coffáu’r Holocaust

Mynychod Llywydd, Dirprwy Lywydd a Swyddog Menywod UCMC Wasanaeth i Goffáu’r Holocaust yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Diben y gwasanaeth oedd:
  • Find this useful?

Cofio’r rheiny a laddwyd a’r rheiny a oroesodd yr Holocaust ac erlediaeth gan y Nazïaid, yn ogystal â’r rheiny a effeithiwyd gan hil-laddiad yn ddiweddarach yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a’r erchyllderau sy’n parhau i ddigwydd yn Darfur.

Sicrhau fod y digwyddiadau hanesyddol sy’n gysylltiedig â’r Holocaust yn parhau i gael eu hystyried i fod o bwysigrwydd sylfaenol.

Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddigwyddiadau’r Holocaust ac achosion o hil-laddiad sydd wedi digwydd yn ddiweddarach fel mater parhaus i ddynoliaeth gyfan, gan gydnabod y gallai ddigwydd eto mewn unrhyw wlad ac ar unrhyw amser, oni fyddwn yn sicrhau fod ein cymdeithas yn gwrthwynebu camwahaniaethu, erledigaeth a hiliaeth.

Dwyn sylw at werthoedd cymdeithas sy’n parchu ac yn dathlu’r gwahaniaethau rhwng unigolion a chymunedau, ar sail y ddamcaniaeth o urddas i bawb a hawliau a chyfrifoldebau cyfartal i’w dinasyddion i gyd.