Daeth myfyrwragedd, undebwyr llafur a gweithwyr yn sector y menywod ynghyd ar y diwrnod i drafod yr hyn y gellir ei wneud ar y campws ac yn y gweithle i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod
Dywedodd Swyddog Menywod UCMC Estelle Hart:
“Ers llawer rhy hir, mae’r syniad mai dim ond menywod o fath arbennig sy’n dioddef trais wedi bod yn boblogaidd. ‘Rydym yn gwybod mai nid dyma yw’r achos mewn gwirionedd, ac y gall unrhyw ddynes, o unrhyw gefndir ddioddef trais sy’n seiliedig ar rywedd.
Mae’r digwyddiad hwn nid yn unig wedi mynd ati i herio’r cysyniadau hyn, ond hefyd wedi helpu i ddarparu ein haelodau â’r arfau i fynd i’r afael â thrais a helpu i’w atal, yn hytrach na dim ond dygymod â’r sefyllfa pan fo’r gwaethaf yn digwydd”
‘Roedd y diwrnod yn cynnwys trafodaethau o amgylch y bwrdd a siaradwyr ar ran amrywiaeth o fudiadau gan gynnwys Cymorth i Fenywod Cymru ac Argyfwng Treisio’r Alban.
Am wybodaeth ynglŷn â’r gwaith ar Atal Trais yn Erbyn Menywod mae UCMC yn ei wneud gyda’r CCHD, mae croeso i chi gysylltu ag estelle.hart@nus-wales.org.uk