Cafwyd ymrwymiad gan y Gwenidog i Fframwaith Genedlaethol er gyfer Bwrseriaethau sy’n mynd i’r afael â’r mater o gydraddoldeb i fyfyrwyr, ac mae’n seiliedig ar yr egwyddorion o dryloywder a chysondeb ar draws Cymru gyfan. Mae UCMC wedi bod yn gweithio’n galed ar y pwnc hwn ers rhai misoedd ac ‘rydym yn falch iawn o weld yr ymrwymiad hwn gan y Gweinidog. ‘Rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda chyrff o fewn i’r sector i weithredu’r Fframwaith Genedlaethol newydd hon ar gyfer Bwrseriaethau gynted â phosibl.
Ar y pwnc o Goleg Ffederal, rhoddodd y Gwenidog sicrwydd i Aelodau’r Cynulliad y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn cadw at yr amserlen wreiddiol, gan ffurfio Bwrdd ar gyfer y Coleg Ffederal yn gynnar yn 2010 a’r Coleg Ffederal ei hun yn gweithredu’r llawn erbyn y flwyddyn academaidd 2011/12. Mae’r datblygiad hwn yn eithriadol o bwysig i’n haelodau Cymraeg eu hiaith, ac mae UCMC yn croesawu’r ymrwymiad pellach hwn gan y Gweinidog.
Mae fideo o ddatganiad y Gweinidog ar gael fan yma. Yn dilyn y datganiad mae cwestiynau gan lefarwyr addysg Ceidwadwyr Cymru, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Cysylltiadau Perthnasol
- Ar Gyfer Ein Dyfodol: Strategaeth a Chynllun Addysg Uwch ar gyfer Cymru yn y 21ain Ganrif yn Gymraeg;
- For Our Future: The 21st Century Higher Education Strategy and Plan for Wales' document yn Saesneg.