News

Cynhadledd UCMC

Cynhaliwyd Cynhadledd UCMC ar 4ydd a’r 5ed Mawrth 2010 in Llandrindod.
  • Find this useful?

‘Roedd y digwyddiad yn cynnwys:

Diwrnod cyntaf: cyflwyniad gan gynhyrchwyr nwyddau masnach deg wedi ei drefnu gan Masnach Deg Cymru; derbyniad wedi ei gynnal gan TUC Cymru  i godi ymwybyddiaeth o fanteision ymuno ag undeb llafur, i fyfyrwyr a graddedigion.

Ail ddiwrnod: sesiwn ar yr Etholiad Cyffredinol a pham y dylai myfyrwyr bleidleisio, wedi ei chynnal gan Susan Nash; a sesiwn ryngwiethiol ar fyfyrwyr a diogelwch gan dîm The Lock.

Mynychwyd y Gynhadledd gan nifer dda o gynrychiolwyr AB ac AU, ac ‘roedd yn gyfle ardderchog i rwydweitho a chael hwyl, gyda noson karaoke wych a ddatgelodd fod gennym sêr y dyfodol yn ein plith.

Hefyd pasiwyd cynigion ar nifer o faterion sy’n effeithio ar fyfyrwyr ac ‘roedd yn gyfle i ethol y tîm ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Canlyniadau Etholiadau

Y Swyddogion

  • Ail-etholwyd Katie Dalton i swydd Llywydd UCMC.
  • Etholwyd Michaela Neild i swydd Dirprwy Lywydd UCMC, a bydd yn cymryd drosodd oddi wrth Lleu Williams yn Ngorffennaf 2010.
  • Hefyd i’ch hatgoffa, ail-etholwyd Estelle Hart fel Swyddog Menywod UCMC ychydig wythnosau’n ôl.

PGCC
Etholwyd Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2010 -2011 yn y Gynhadledd.  Mae’r tîm newydd yn cynnwys:

  • Tom Bond
  • Nigel Green
  • Raechel Mattey
  • Kay Stevens
  • Sharyn Williams

Ail le ar Gyngor Cenedlaethol UCM DU

Etholwyd Luke Young i gymryd yr ail le i UCMC ar Gyngor Cenedlaethol UCM DU