Er fod y daith ychydig ymhellach na’r ymweliadau arferol â Blackpool, llwyddodd pawb i gyrraedd yno’n ddiogel – go dda chi Aber / Llambed am osgoi’r waliau trafferthus y tro hwn.
Ar ôl llawer (gormod) o flynyddoedd yn y Winter Gardens yn Blackpool, ‘roedd y Sage tu hwnt i ddisgwyliadau pawb ac ‘roedd yn lleoliad gwych ar gyfer ein Cynhadledd Genedlaethol. Diolch o galon i’r holl staff fu wrthi’n paratoi ar gyfer ac yn trefnu’r digwyddiad.
Agorwyd y Gynhadledd Genedlaethol gan Ko Aung, ymgyrchydd o Burma, ac aelod o grŵp myfyrwyr Cenhedlaeth 88, gydag atgofion emosiynol o wrthdystiadau’r myfyrwyr yn 1988 - dywedodd fod digwyddiadau’r diwrnod hwnnw wedi aros yn ei gof fyth ers hynny. Dywedodd wrth y Gynhadledd “mae gennych chi’r pwer i newid unrhyw beth yn y wlad hon; un peth sy’n hanfodol, rhaid i chi gredu ynddo, rhaid i chi gynnal eich cred ac ymladd dros newid.”
Wedyn dangoswyd cyfres o negeseuon fideo gan Gordon Brown, Nick Clegg a David Cameron (sori Plaid!), a dderbyniodd ymateb cymysg gan y cynrychiolwyr…! ‘Roedd arweinydd pob plaid yn ymbil ar fyfyrwyr i bleidleisio drostynt hwy drwy amlinellu cynlluniau eu plaid ar gyfer addysg uwch.
Yn nhermau trafodaeth bolisi, penderfynodd y gynhadledd ddefnyddio amrediad o dactegau lobïo ac ymgyrchu yn y frwydr dros gyfundrefn gyllido decach, gan gynnwys gwrthdystiad cenedlaethol cyn y bydd y Senedd yn pleidleisio ar unrhyw gynnydd mewn ffioedd dysgu. Hefyd trafodwyd costau cyrsiau, myfyrwyr rhan-amser, cynhaliaeth genedlaethol i fyfyrwyr, cyllido ôl-raddedigion, ffioedd myfyrwyr rhyngwladol a thoriadau ariannol o fewn i brifysgolion.
‘Roedd yno fwy nag erioed o’r blaen o gynrychiolwyr AB yng Nghynhadledd Genedlaethol 2010, a phasiwyd polisi ar gydraddoldeb ac amrywioldeb mewn colegau, cefnogi menter AU iach a chondemnio colegau ffug. Penderfynodd y Gynhadledd hefyd i amddiffyn y Lwfans Cynhaliaeth Addsyg, lobïo yn erbyn cau cyrsiau a champysau yn dilyn argyfwng cyfalaf, a mwy o eglurdeb o ran y ddarpariaeth 16–19.
Ym maes Lles, gwelwyd trafodaethau ar nifer o bynciau gan gynnwys cost llety, lles myfyrwyr, troseddau casineb, hiliaeth ar y campws, iechyd rhywiol, iechyd meddwl, gofal bugeiliol, trafnidiaeth, cyllid, dyled, myfyrwyr sy’n rhieni, ffydd a myfyrwyr fel gweithwyr.
Ym maes Datblygiad Undebau, trafododd y gynhadledd weithgaredd mewn undebau, cyfathrebu, datblygiad undebau mewn AB, datblygu cyllido cynaliadwy ar gyfer UM, llywodraethu da a gwerth gweithgareddau myfyrwyr a gwirfoddoli.
Fel arfer, ychydig o amser gafwyd i drafod Cymdeithas a Dinasyddiaeth, ond symudodd y gynhadledd yn gyflym gan basio nifer o benderfyniadau oedd yn gefnogol i bleidleisiau’n 16, cyfranogiad myfyrwyr yn y system wleidyddol, ymgysylltiad myfyrwyr â’r gymuned ac ymgyrch gwrth-hiliaeth / gwrth-ffasgiaeth.
Hefyd eleni, mabwysiwdwyd polisi UCMC – rhywbeth a gyflwynwyd ers Adolygiad Llywodraethu UCM. Yn ffodus, ni welodd y gynhadledd unrhyw broblemau gyda’n polisi a phleidleisiwyd i’w fabwysiadu i mewn i bolisi UCM DU.
O ran etholiadau, ‘roedd y cynrychiolwyr o Gymru i weld fel pe baent yn cefnogi;’r ymgeiswyr llwyddiannus, a gwelwyd Aaron Porter yn cael ei ethol yn Llywydd Cenedlaethol, Shane Chowen fel Is-Lywydd Addysg Bellach, Ben Whittaker fel Is-Lywydd Lles a Susan Nash fel Is-Lywydd Cymdeithas a Dinasyddiaeth. Yr etholiad a ddenodd y sylw mwyaf oedd yr un ar gyfer yr Is-Lywydd Addysg Uwch, gyda’r cynrychiolwyr o Gymru yn ei chael yn anodd penderfynu i bwy i fwrw eu pleidlais nes iddynt gyrraedd y blwch pleidleisio. Yr enillydd wrth gwrs oedd Usman Ali, sydd wedi addo dod drso y ffin i ymweld â Chymru yn ystod ei flwyddyn yn y swydd!
Felly, ar ôl tri diwrnod o drafodaeth di-ben-draw, digwyddiadau ymylol ac etholiadau, ‘roedd Cynhadledd Genedlaethol UCM drosodd. ‘Roedd ambell i gynrychiolydd o Gymru yn dal i wisgo’i baent UV ers y noson cynt, ond llwyddodd pawb i oroesi’r profiad (rywsut) a hyd y gwelaf, cafwyd amser da! Yn anffodus, ‘doedd y daith adref ddim heb eii anawsterau – methodd cynlluniau cynrychiolwyr Prifysgol Abertawe i hedfan yn ôl i Gymru o ganlyniad i’r cwmwl o lwch folcanig o Wlad-yr-Iâ (mae’n bur debyg y byddai Susan Nash o’r farn mai rhgluniaeth oedd hyn gan y byddai hedfan wedi cyfrannu at newid hinsawdd!). Diolch yn arbennig i’r holl undebau a lwyddodd i ganfod lle yn eu ceir er mwyn galluogi i gynrychiolwyr Prifysgol Abertawe ddychwelyd i Gymru’n ddiogel!
Katie
Am fwy o fanylion o Gynhadledd Genedlaethol UCM, gallwch ddarllen yr adroddiad swyddogol fan yma: http://resource.nusonline.co.uk/media/resource/NUS%20National%20Conference%202010%20Report.pdf