News

Cyflwyno Swyddogau Llawn-Amser UCM Cymru

Cyflwyno Swyddogau Llawn-Amser UCM Cymru

By UCM Cymru

  • Find this useful?

Ar y 1af Gorfennenaf, wnaeth UCM Cymru croesawu Llywydd, Diprwy Llywydd ac Swyddog Fenywod i mewn i gweithgareddau llawn-amser.

Luke Young, Llywydd UCMC

"Mae hwn yn dîm newydd sbon.  'Rydym yn barod ac 'rydym yn edrych ymlaen at her y flwyddyn sydd i ddod.  Gyda'n gilydd, gallwn gyflawni'r dasg" Mae Luke yn arwain y tîm newydd fel Llywydd UCMC.  Cyn hynny, bu'n Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe am ddwy flynedd, a bu'n aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol UCMC am flwyddyn. Mae ei bortffolio'n cynnwys Addysg Uwch, Datblygiad Undebau a bod yn brif swyddog gwleidyddol o fewn i UCMC.

 

Raechel Mattey, Dirprwy Lywydd UCM Cymru:

"Gyda chyfnod heriol ond cyffrous o'n blaenau, 'rwyf yn falch iawn o fod yn dechrau gweithio i UCMC ac Undebau Myfyrwyr ledled y wlad."

Mae Raechel eisoes wedi cwblhau dwy flynedd fel Swyddog Cymdeithasau a Gwasanaethau yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe a blwyddyn fel aelod o fwrdd Gwasanaethau UCM Cyf.

Mae ei chyfrifoldebau yn cynnwys Addysg Bellach, Lles a Gweithgareddau Myfyrwyr/Gwirfoddoli.

 

 Stephanie Lloyd, Swyddog Menywod UCMC:

 "Rwyf yn falch iawn o fod yn dechrau fel rhan o dîm UCMC eleni; mae gennym gyfle gwirioneddol i ddechrau adeiladu carfan o ymgyrchwyr ledled Cymru ac ymladd yn erbyn y toriadau a fydd yn bwrw myfyrwragedd galetaf"

 Mae Stephanie newydd orffen blwyddyn fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Abertawe, a fel aelod o Bwyllgorau Ymgyrchoedd Menywod UCM Cymru ac UCM y DU.

 Ei phrif gyfrifoldeb fydd arwain Ymgyrch Menywod UCMC.