Mae’r prosiect hwn yn gosod llais dysgwyr wrth galon profiad myfyrwyr ac mae’n derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth y Cynullaid. Mae’n rhoddi sylw penodol i’r canlynol:
- Darparu hyfforddiant myfyrwyr lywodraethwyr i holl fyfyrwyr lywodraethwyr Cymru (mewn cydweithrediad â ColegauCymru)
- Darparu hyfforddiant ar gyfer gwahanol aelodau staff o fewn i’r colegau AB
- Cynghori a chynorthwyo strwythurau cynrychiolwyr cyrsiau yng ngholegau AB Cymru
- Nifer o nodau ac amcanion eraill y prosiect a fydd o gymorth i weithgareddau ymgysylltiad myfyrwyr o fewn i golegau AB
Mae chwe choleg AB wedi cael eu dewis yn ddiweddar ar gyfer prosiect peilot. Dyma nhw’r chwe choleg:
- Coleg Pen-y-Bont
- Coleg Glan Hafren
- Coleg Ystrad Mynach
- Coleg Gwent
- Coleg Powys
- Coleg Castell-nedd Port Talbot
Fy rôl fydd gweithio’n glòs gyda’r chwech a ddewiswyd, yn ogystal â gweithio gyda’r deunaw coleg AB arall ledled Cymru. Mae’n brosiect enfawr, ond ‘rwyf yn edrych ymlaen i’r her, gan fod hwn yn gyfnod eithriadol o gyffrous i’r sector AB yng Nghymru.
Digwyddiadau sydd ar y gweill
‘Rwyf wrthi ar hyn o bryd yn llunio calendr digwyddiadau ar gyfer yr ychydig fisoedd nesaf, a fydd yn cynnwys hyfforddiant myfyrwyr lywodraethwyr (wedi ei drefnu ar gyfer Tachwedd), diwrnodau hyfforddiant ar gyfer staff colegau a diwrnodau rhywdweithio ar gyfer staff, myfyrwyr lywodraethwyr a chynrychiolwyr dosbarthiadau. Gan mai dim ond fy ail wythnos yn y swydd yw hon, nid yw’r digwyddiadau hyn wedi cael eu cadarnhau’n swyddogol, felly gwyliwch allan am fwy o wybodaeth.
Fy nghefndir – ychydig amdanaf i!
Cefais fy ngeni a’m magu yn Aberdâr yng Nghymoedd y De a gadewis gartref yn ddeunaw oed i astudio Economeg Busnes ym Mhrifsgol Aberyawe. Ar ôl graddio, fe’m hetholwyd yn Swyddog Addysg yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe am ddwy flynedd. Pan ddaeth fy nghyfnod yn y swydd i ben, gweithias am gyfnod byr i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Abertawe, cyn symud i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Morgannwg, lle treuliais y ddwy flynedd ddiwethaf yn gweithio fel Cydlynydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr. Gadewais y swydd honno ychydig wythnosau’n ôl i ddechrau yn y rôl gyffrous yma gydag UCMC.