Ymhlith y prosiectau sydd ar y gweill mae arweiniad Cymru gyfan i dai a llety a diwrnod hyfforddiant ar gyfer swyddogion, gan weithio gyda’r Swyddog Datblygu AB newydd i gynnig cymorth i Undebau Myfyrwyr AB ac ymdrin ag effeithiau’r toriadau. Edrychaf ymlaen i glywed gennych.
Cefais fy ethol yng Nghynhadledd UCMC ym Mawrth 2010 a dechreuais yn y swydd yng Ngorffennaf 2010. Fe astudiais Wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a dechreuodd fy nghysylltiad ag Undeb y Myfyrwyr pan yr helpais i sefydlu 2 gymdeithas myfyrwyr newydd. ‘Roeddwn yn Swyddog Iechyd a Lles Cynorthwyol rhan-amser yn fy Undeb Myfyrwyr ac yn aelod o Bwyllgor Menywod UCMC yn 2008-2009. Yn 2009 fe’m hetholwyd yn Swyddog Materion Academaidd a Phrifysgol yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a chefais fy nghyf-ethol i Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol UCMC.
Cliciwch fan yma i weld fy maniffesto.