News

Cyfarfod gyda’r Gweinidog

Ar 3ydd Chwefror, cyfarfu Katie Dalton (Llywydd UCMC) â’r Gweinidog newydd dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, Leighton Andrews AC.
  • Find this useful?

Dyma’r tro cyntaf i UCMC gyfarfod â’rGweinidog ers ei benodiad yn Rhagfyr, a felly’r cyfle cyntaf i godi nifer o faterion ar draws y sector AB ac AU, gan gynnwys llais dysgwyr mewn AB, Er Mwyn Ein Dyfodol a’r ‘arbedion effeithlonrwydd’ o 5% sy’n ofynnol yng nghyllideb addysg ddiweddaraf Llywodraeth y Cynulliad. 

‘Roedd y cyfarfod yn un adeiladol, ac mae’n eglur fod y Gweinidog hwn yn awyddus i fwrw ’mlaen â mentrau sydd ar y gweill a sicrhau fod y sector yn gweithredu amcanion Llywodraeth y Cynulliad yn effeithlon. 

Bydd gwaith pellach ar ymrwymiadau Er Mwyn Ein Dyfydol yn digwydd yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ac mae’r Gweinidog wedi rhoddi sicrwydd i ni y bydd UCMC yn rhan o’r gwaith yma.