News

Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru

Yn dilyn brwydr hir, mae Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru (CGMC) wedi cael eu hysbysu na fyddant yn derbyn cyllido gan Lywodraeth y Cynulliad yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, sy’n golygu na allant weithredu ymhellach.
  • Find this useful?

Mae CGMC yn cynrychioli dros 50 o fudiadau sy’n cynrychioli menywod yng Nghymru, gan gyflwyno eu barn i’r llywodraeth ac yn rhyngwladol, ynghyd â mudiadau cyffelyb yn Lloegr a’r Alban; mae’r mudiadau cyfatebol yn Lloegr a’r Alban yn cael eu cyllido 100% gan y llywodraeth.

Cred Ymgyrch Menywod UCMC fod hwn yn benderfyniad annoeth gan y Gweinidog ac y bydd yn cael effaith niweidiol ar sector y menywod a hawliau menywod yng Nghymru.

Dywedodd swyddog menywod UCMC Estelle Hart: “ar adeg pan fo hawliau sylfaenol menywod yn cael eu herio’n ddyddiol a bod y buddugoliaethau a enillwyd drwy waith caled mudiad rhyddhad menywod dan fygythiad, mae’r penderfyniad hwn yn ergyd andwyol i fenywod ledled Cymru.”

Mae atal y cyllid yma yn golygu mai Cymru fydd yr unog wlad o fewn i’r DU heb gynrychiolaeth ryngwladol i fenywod, na chynrychiolaeth ar y cyd ar ran menywod i bolisi a llunio penderfyniadau.

Mewn llythyr at y Gweinidog ar ran yr ymgyrch, ‘sgrifennodd Estelle: “ar adeg pan fo menywod yn dal i dderbyn cyflog sy’n llai na’r hyn a gaiff ei dalu i ddynion a bod trais yn erbyn menywod yn rhemp, mae i bob diben rhoi taw ar lais menywod yn gam afresymol. 

Busawn yn eich hannog i ail-ystyried y penderfyniad hwn yng ngoleuni’r effaith niweidiol a gaiff hyn, yn fy marn i a llawer o fenywod eraill.”

Mynegwch eich gwrthwynebiad i’r toriad hwn mewn cyllido a gofynnwch i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol i ail-ystyried y penderfyniad hwn drwy ei e-bostio ar carl.sargeant@wales.gov.uk