News

Canllawiau ar Gostau Astudio – Cymru’n arwain y ffordd

Yn ystod y deuddeg mis diwethaf, mae UCMC wedi bod yn lobïo ac yn gweithio gyda’r llywodraeth a rhanddeiliaid o fewn i’r sector i leihau effeithiau costau astudio cudd.
  • Find this useful?

Cyflwynodd UCMC dystiolaeth ar y mater hwn i Adolygiad Jones o Addysg Uwch, ac yn ddiweddarach tynnodd y Gwenidog sylw ato fel maes sy’n peri pryder. 

O ganlyniad i hyn, gorchmynodd y Gweinidog y Cyngor Cyllido i fynd i’r afael â’r mater, a arweiniodd at ffurfio grŵp llywio oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, UCMC, Addysg Uwch Cymru (sy’n cynrychioli sefydliadau yng Nghymru) ac yn fwy penodol eu grŵp Pro-Is Ganghellorion.

Cyfarfu’r grŵp ar sawl achlysur i drafod effaith costau astudio cudd a sut i fynd i’r afael â’r broblem hon. 

Ymchwiliodd y grŵp hwn i’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i fyfyrwyr o ran costau astudio, ar level cwrs a sefydliadau, ac yn bwysig pa bryd mae’r wybodaeth yma ar gael i fyfyrwyr.

Mae UCMC wastad wedi ymgyrchu dros gael holl gostau astudio wedi eu cyhoeddi mewn pryd i ddarpar fyfyrwyr asesu cost llawn addysg uwch. 

Wrth fynd ati i ymchwilio i’r ddarpariaeth gyfredol o wybodaeth, daeth yn eglur fod gwybodaeth ond ar gael i fyfyrwyr yn hwyr iawn yn ystod y broses ymgeisio / ymuno â’r cwrs, ac yn sicr nid oedd ar gael yn ddigon cynnar i ddarpar fyfyrwyr.

Er nad oedd y gwahanol gyrff o fewn i’r sector yn cytuno ar bob manylyn, ‘roedd yno gonsensws cyffredinol y gellid ac y dylid cyhoeddi’r wybodaeth hon mewn ffordd fwy tryloyw ac amserol. 

O ganlyniad i hyn, anfonwyd cyngor ar y mater i’r Gweinidog newydd.  Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Gweinidog, mae canllawiau ar gyfer sefydliadau wedi cael ei ‘sgrifennu a’u hanfon allan i’r sector

Mae’r canllawiau yn ei gwneud yn ofynnol i gostau astudio gael eu cynnwys ar wefannau prifysgolion a cholegau, ar lefel sefydliannol a fesul cyrsiau unigol, fel eu bod yn hygyrch i ddarpar fyfyrwyr. 

Mae’r canllawiau hefyd yn gosod allan pa bryd y dylid cyhoeddi gwahanol fathau o wybodaeth, gyda’r wybodaeth i gyd ar gael ar-lein erbyn Mehefin 2011.

Mae UCMC yn eithriadol o falch fod y Gweinidog wedi cydnabod y mater hwn, a bod cyrff o fewn i’r sector wedi gweithredu arno. 

Mae’n werth nodi fod y maes yma o waith y cyntaf o’i fath mewn addysg uwch yn y DU.  Mae UCM DU ac UCM yr Alban yn bwriadu gwthio’r mater gyda rhanddeiliaid perthnasol, gyda’r nod o sicrhau fod costau astudio yn fwy tryloyw ar draws y DU i gyd.