News

Blaengarwch MAWR yn darparu adduned Blwyddyn Newydd ar gyfer prosiectau yng Nghymru

Blaengarwch MAWR yn darparu adduned Blwyddyn Newydd ar gyfer prosiectau yng Nghymru
  • Find this useful?

Mae pump o brosiectau ledled Cymru wedi derbyn cyfran o £1,376,049 fel rhan o gam cyntaf rhaglen Blaengarwch MAWR, sydd â’r nod o ddarparu cyllido ar gyfer prosiectau sy’n defnyddio dulliau newydd o fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol sy’n bodoli eisoes a rhai newydd.

Bydd un o’r prosiectau yn gweithio i ddarparu cyngor a chefnogaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n gweithio yn y diwydiant rhyw, ac mae prosiect arall yn ceisio mynd i’r afael â hiliaeth ac eithafiaeth adain-dde ymhlith pobl ifanc.

Mae UCM, asiantaethau iechyd rhywiol ac academyddion yn bryderus fod nifer cynyddol o fyfyrwragedd yn gweithio yn y diwydiant rhyw yng Nghymru er mwyn talu am eu haddysg, a’r posibilrwydd nad yw’r menywod hyn yn cael mynediad i wasanaethau iechyd rhywiol priodol.

Mae grant o bron i hanner miliwn o bunnoedd (£489,143), fel rhan o’r cam cyntaf, wedi cael ei roddi i Brifysgol Abertawe, a fydd yn eu galluogi i redeg prosiect Iechyd Rhyngweithiol Cymru-Gyfan: Myfyrwragedd yn y Diwydiant Rhyw.  Caiff yr arian ei ddefnyddio i sefydlu prosiect tair blynedd gyda’r nod o hyrwyddo dysgu a dealltwriaeth ynglŷn ag anghenion gweithwyr rhyw ac unrhyw faterion cysylltiedig, yn ogystal â’u darparu â gwasanaeth iechyd rhywiol blaengar.  Bydd y prosiect yn darparu myfyrwragedd yn y diwydiant rhyw, sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, â chyngor a chefnogaeth, a bydd yn eu cyfeirio hwy at wasanaethau lleol.  Bydd y prosiect hefyd yn darparu gwybodaeth am iechyd rhywiol ac arweiniad parthed ag arferion gorau ar gyfer Prifysgolion Cymru a gwasanaethau lleol.

Dywedodd Stephanie Lloyd, Swyddog Menywod UCM Cymru:

“Credwn y bydd hwn yn brosiect blaengar a chyffrous.  Mae’r ymchwil yn hanfodol bwysig i ran o’n haelodaeth sydd ers blynyddoedd lawer wedi cael eu gadael i lawr gan ddiffyg tystiolaeth, cyngor a chefnogaeth parthed â’r dywydiant rhyw.  Drwy ymchwilio i’r achosion a’r effeithiau ar y rheiny sy’n cymryd rhan yn y diwydiant, byddwn yn gallu darganfod, a gobeithio, mynd i’r afael a’r amgylchiadau sy’n annog myfyrwragedd i weithio yn y diwydiant rhyw.

Bydd ein partneriaeth, sy’n cynnwys Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, Prifysgol Abertawe a’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, yn gweithio i sicrhau y byddwn yn darparu’r canlyniad gorau posibl ar gyfer myfyrwragedd yng Nghymru.

Bydd y gwersi y byddwn yn eu dysgu yn helpu i newid bywydau’r myfyrwragedd hyn, sydd angen y gefnogaeth yma nawr fwy nag erioed o’r blaen."

Gan ddwyn sylw at bwysigrwydd y prosiect, dywedodd Dr Tracey Sagar, Prif Ymchwilydd y prosiect a darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe sy’n arbenigo mewn rheolaethu’r diwydiant rhyw: “Ar hyn o bryd, ‘rydym yn gwybod fod gennym ni gymuned o weithwyr rhyw ymhlith myfyrwragedd yng Nghymru, ond nid ydym yn llawn ddeall eu cymhelliannau a’u hanghenion.  Bydd y prosiect hwn yn mynd i’r afael â’r bwlch gwybodaeth hwn ac yn datblygu gwasanaethau sy’n ‘briodol i’r diben’.”

“O fis Mehefin 2012, mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, Iechyd Rhywiol Integredig Caerdydd a’r Fro, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ac Ysgol Ffilm Casnewydd, byddwn yn dechrau ar ymgyrch godi ymwybyddiaeth aml-gyfrwng ac yn datblygu gwasanaeth e-iechyd traws sector blaengar ar gyfer y rheiny sy’n gweithio yn y diwydiant rhyw yng Nghymru.  Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae angen cyllidwr gwrthrychol sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ‘gymuned’ ac ‘angen’ i gyllido prosiect blaengar fel hwn.  ‘Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Flaengarwch y Loteri Fawr am y grant ariannol hwn.

Caiff yr ail brosiect, a fwriadwyd i fynd i’r afael a pheryglon hiliaeth ac eithafiaeth adain dde ymysg pobl ifanc yn Abertawe, ei gydlynu gan y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig a fydd yn defnyddio eu grant o £169,616 i redeg Prosiect Meddyliwch, a fydd yn profi ac yn datblygu ffyrdd newydd o weithio gyda’r bobl ifanc croenwyn lleiaf ymgysylltiedig yng Nghymru.  Nod yr ymgyrch yw ymateb i’r heriau a gaiff eu creu gan bresenoldeb a chyfreithlondeb cynyddol yr adain dde eithafol yn y DU ac yn Ewrop, a thwf normaleiddio rhethreg, ymagweddiad ac ymddygiad hiliol ar lefel leol a chenedlaethol.

Am wybodaeth bellach ynglŷn â rhaglen Blaengarwch MAWR a sut y gallwch ymgeisio am gyllido, ewch i www.biglotteryfund.org.uk/wales