Ar 8fed Rhagfyr bydd Ymgyrch Menywod UCMC a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnal hyfforddiant, di-dâl, fel rhan o'n hymgyrch i Roi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod.
Nod y digwyddiad yw darparu gwell dealltwriaeth ynglyn â sut mae trais yn effeithio ar fyfyrwragedd, yn ogystal â chyngor ymarferol ar sut i gynnig cefnogaeth i'r rheiny sy'n dioddef effeithiau trais.
Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer swyddogion, ymgyrchwyr, staff canolfannau cynghori ac unrhyw un ar eich tîm a fydd, yn eich barn chi, yn manteisio o fod yno.
Byddwn yn anfon manylion pellach allan i undebau yn ystod yr wythnosau nesaf, ac os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ag Estelle Hart ar estelle.hart@nus-wales.org.uk
Mae UCMC, CCHD a TUC Cymru yn estyn gwahodiad i chi fynychu:
Digwyddiad Hyfforddi ac Addysgu - Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod
8fed Rhagfyr yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe.
Ni chodir tâl am fynychu'r digwyddiad, a chaiff cinio a lluniaeth ysgafn eu darparu