MYMC – Menter Ymgysylltu â Myfyrwyr Cymru

Mae MYMC yn ymagweddiad sy’n ymgysylltu â myfyrwyr fel cyfranogwyr gweithredol mewn arweinyddiaeth, rheolaeth, datblygiad a darpariaeth o’u profiad addysgol eu hunain ac mae’n nodwedd sy’n diffinio addysg bellach ac uwch yng Nghymru.

Mae pwer MYMC mewn nerth cyfunol addysg bellach ac uwch i annog blaengarwch a galluogi arferion da parthed ag ymgsysylltiad â myfyrwyr i gael eu mabwysiadu ar draws y sector. 

Nod MYMC yw sicrhau fod Cymru yn parhau i fod ym mlaen y gad o ran ymgysylltu â myfyrwyr er mwyn parhau i roddi grym i fyfyrwyr gyfranogi mewn gwella eu profiadau dysgu eu hunain. 

Mae MYMC felly yn darparu myfyrwyr yng Nghymru â phrofiad rhagorol ac unigryw.  Mae’n cynnwys ymgysylltiad ar sawl lefel, mewn sawl gwahanol ffurf a bydd yn digwydd yn bennaf mewn sefydliadau unigol.  Mae MYMC felly yn galluogi amrywioldeb yn ogystal â darparu nod cyffredin. 

Mae’r grŵp traws-sector, a ffurfiwyd yn 2009, yn cynnwys cynrychiolaeth o GolegauCymru, yr Academi Addysg Uwch (AAU), Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCMC) a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd. 

Mae’r partneriaid yn gweithio’n glòs ac yn gydweithredol gyda dysgwyr i sicrhau nodau ac amcanion ar y cyd, atgyfnerthu, rhannu ac adeiladu ar arferion da cyfredol mewn ymgysylltiad â myfyrwyr mewn addysg bellach ac uwch, yn ogystal â dysgu gan bartneriaid ar draws y DU, Ewrop a thu hwnt i helpu Cymru i gyfoethogi a gwella profiad myfyrwyr.  

Mae MYMC yn seiliedig ar dri egwyddor: gweithio mewn partneriaeth, gosod gwerth ar adborth, a ffrwyno arbenigedd.  


Gweithio mewn Partneriaeth – y cysyniad o weithio ar y cyd er lles cyffredinol

Mae myfyrwyr yng Nghymru yn gwybod fod eu llais yn gwella addysg bellach ac uwch.  Mae yno ymrwymiad rhwng myfyrwyr a staff i weithio mewn partneriaeth, sy’n agor posibiliadau ar gyfer deialog adeiladol o’r iawn ryw. 

Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i fod y gyfranogwyr gweithredol mewn gwella’r amgylchedd dysgu ac, ar y cyd, bod yn rym er dylanwadu a newid.  

Er mwyn ymgysylltu â myfyrwyr fel partneriaid, bydd y sector addysg bellach ac uwch yn:

  • ymateb i newidiadau mewn rôl a hunaniaeth myfyrwyr mewn sector addysg sy’n mynd yn fwyfwy amrywiadwy;
  • sicrhau fod staff a myfyrwyr oll yn ymwybodol o’u gwahanol swyddogaethau, a rôl eu sefydliadau;
  • galluogi cyfranogiad gweithredol gan fyfyrwyr a hyrwyddo sianelau cyfathrebu adeiladol i wella mecanweithiau adborth rhwng myfyrwyr a’u sefydliadau; a
  • gwella cynrychiolaeth myfyrwyr, gan gynnwys gweithio ar y cyd lle bo hynny’n briodol, er mwyn cyrraedd amcanion cyffredin a rhannu arferion da.


Gosod gwerth ar Adborth – mae canlyniad digwyddiad yn y gorffennol y mynd i ddylanwadu’n gadarnhaol ar yr un digwyddiad yn y presennol neu’r dyfodol

Rhoddi adborth yw’r ffordd fwyaf cyffredin y gall myfyrwyr gyfranogi mewn datblygu a gwella profiad myfyrwyr. 

Mae yno amrywioldeb eang o ran sut a pha bryd mae myfyrwyr yn rhoddi adborth.  Mae yno strwythurau effeithiol mewn lle mewn sefydliadau yng Nghymru ar gyfer casglu ac ystyried adborth gan fyfyrwyr ar bob lefel o lunio penderfyniadau. 

Caiff hyn ei atgyfnerthu ar lefel genedlaethol drwy gyfranogiad a chynrychiolaeth myfyrwyr mewn uwch-fforymau llunio penderfyniadau o gyrff ac asiantaethau’r sector.

Bydd y sector addysg bellach ac uwch yn adeiladu ar yr ymagweddiad drwy:

  • amrywio a cheiso gwella’r ffyrdd yr ymgynghorir â myfyrwyr parthed â phenderfyniadau ynglŷn â datblygiadau yn eu dysgu;
  • nodi a rhannu arferion effeithiol er mwyn galluogi mwy o bobl i gymryd rhan;
  • defnydio canlyniadau arolygon ac adolygiadau i wella ymgysylltiad a phrofiad myfyrwyr yn gyffredinol;
  • cynyddu a gwella cyfleoedd i fyfyrwyr gyfrannu’n llawn at adolygiadau ansawdd a phrosesau archwilio;
  • darparu myfyrwyr â gwybodaeth eglur ar sut y defnyddiwyd eu hadborth; a
  • defnyddio dulliau blaengar o gyfathrebu a mecanweithiau adborth i ddiwallu anghenion corff myfyrwyr amrywiadwy.


Ffrwyno Arbenigedd – rheoli a defnyddio rhywbeth neu rywun sydd â gwybodaeth, gallu neu brofiad helaeth 

Nod ymgysylltu â myfyrwyr yw gwella ansawdd dysgu ar gyfer y genhedlaeth bresennol a’r rhai sydd i ddod.  Y myfyrwyr eu hunain sydd yn y sefyllfa orau i wybod beth maent ei eisiau o ran eu profiadau a’u hanghenion dysgu. 

Maent yn gwybod sut maent wedi cyrraedd eu canlyniadau dysgu, sut mae’r addysgu wedi eu cynorthwyo yn y broses hon a sut mae gwahaanol ymagweddiadau wedi effeithio ar eu llwyddiant mewn gwahanol gyd-destunau. 

Mae MYMC yn ymgorffori diwylliant lle caiff myfyrwyr eu trin fel cyfranwyr arbenigol at brofiad myfyrwyr, gydag arweinyddiaeth gref ac ymagweddiad gadarnhaol gan staff a myfyrwyr fel ei gilydd. 

Er mwyn cynorthwyo ymagweddiad MYMC, bydd y sector addysg bellach ac uwch yn:

  • galluogi mwy o bobl i ymgymryd ag arferion da, gan gynnwys rhannu canllawiau, polisïau a strategaethau ar gyfer cynrychiolaeth ac ymgysylltiad myfyrwyr;
  • galluogi myfyrwyr i gyfranogi’n llawn yn y broses adolygu allanol; a
  • datblygu modd o dangos i fyfyrwyr sut mae eu cyfraniadau arbenigol wedi creu newid.

Featured Content