Ymrwymodd y sector addysg yng Nghymru i FYMC yn 2009. Mae UCM Cymru, ynghyd â Cholegau Cymru, yr Academi Addysg Uwch, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn gweithio’n glòs i roi’r gred hon ar waith.
Tair Egwyddor MYMC
Gweithio mewn partneriaeth.
Mae myfyrwyr yng Nghymru yn gwybod y gosodir gwerth ar eu llais. Mae staff yn gweithio gyda myfyrwyr, sy’n galluogi dysgwyr i ddylanwadu a newid eu hamgylchedd.
Gosod gwerth ar Adborth.
Pan fydd myfyrwyr yn cynnig adborth, mae’n dylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd yn y dyfodol. Mae sefydliadau addysg bellach ac uwch yn adeiladu strwythurau ar gyfer casglu adborth. Mae hyn yn ymestyn i gynrychiolaeth a chyfranogiad mewn llunio penderfyniadau ar lefel genedlaethol.
Ffrwyno arbenigedd.
Y myfyrwyr yw’r arbenigwyr, felly hwy sydd yn y sefyllfa orau i wybod sut maent yn dysgu a’r hyn maent ei angen. Mae Cymru’n croesawu diwylliant lle mae’r arbenigedd yma’n ffurfio sail ar gyfer arferion da a chreu newid.
Mae yno lawer iawn o waith sy’n seiliedig ar yr egwyddorion hyn yn digwydd o fewn i sefydliadau addysgol yng Nghymru, gyda’r nod o ddatblygu a chyfoethogi cyfranogiad myfyrwyr yn eu profiad dysgu.
Dweud Eich Dweud
Mae’r rhaglen hon, a weithredir gan UCM Cymru, yn hyfforddi myfyrwyr gyda’r nod o sicrhau fod ganddynt yr wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i fod yn gynrychiolwyr cyrsiau effeithiol.
Mae Dweud Eich Dweud yn gweithio tuag at adeiladu strwythurau cryfach ar gyfer cynrychiolaeth myfyrwyr gyda’r nod, yn y pen draw, o wella profiad myfyrwyr ledled Cymru.