Your account

Hi, You're not registered!

Site search

Site Content

Arweinydd Myfyrwyr yn Beirnadu 'Llanast' Ysgolion Blaenau Gwent

News

Arweinydd Myfyrwyr yn Beirnadu 'Llanast' Ysgolion Blaenau Gwent

Arweinydd Myfyrwyr yn Beirnadu 'Llanast' Ysgolion Blaenau Gwent

By UCM Cymru

  • Find this useful?

Mae arweinydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru wedi beirniadu Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent am fethu darparu addysg o ansawdd da ar ôl i'r cyngor gael ei osod dan 'fesurau arbennig' gan Lywodraeth Cymru.

Mae Llywydd UCM Cymru, Luke Young, o Flaina, wedi mynegi ei ddicter a'i bryder ynglyn â methiant amlwg a sylweddol yn y ffordd y caiff ysgolion eu rheoli o fewn i'r Awdurdod Lleol.

Mewn ymateb i'r newyddion yma, dywedodd Llywydd UCM Cymru Luke Young:

"Mae'n fater o bryder mawr i mi fod pobl ifanc Blaenau Gwent yn cael eu gadael i lawr mor wael. Mae'r profiadau dysgu a gaiff plant yn yr ysgol yn cael effaith enfawr ar y swyddi a'r cyfleoedd ar gyfer addysg sydd ar gael iddynt yn ddiweddarach yn eu bywydau. Mae anallu'r cyngor i fynd i'r afael â'r materion hyn yn mynd i gael effaith hir-dymor ar y plant ysgol maent wedi eu gadael i lawr. Gobeithio y daw rhyw ddaioni allan o'r llanast yma."