Your account

Hi, You're not registered!

Site search

Site Content

Menter Ymgysylltiad Myfyrwyr Cymru

Menter Ymgysylltiad Myfyrwyr Cymru - 12/10/2009

Menter Ymgysylltiad Myfyrwyr Cymru

Mae Menter Ymgysylltiad Myfyrwyr Cymru yn brosiect gan UCMC sydd wedi cael ei ariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.  Nod y prosiect yw helpu myfyrwyr ac undebau myfyrwyr i gyfranogi mewn llunio'r dysgu sy'n digwydd yn eu prifysgolion eu hunain.

Allbwn y prosiect yw:

  • Cynnal pedwar o gyrsiau hyfforddi hyfforddwyr cysylltiedig bob blwyddyn ar gyfer cydlynwyr cynrychiolwyr cyrsiau a hyrwyddwyr cynrychiolwyr cyrsiau yn cynnwys o leiaf wyth undeb myfyrwyr AU.
  • Cynnal digwyddiad un-dydd blynyddol ar gyfer cynrychiolwyr cyrsiau o bob sefydliad AU yng Nghymru (tua 50 o bobl)
  • Gwerthuso rheolaidd o hyfforddiant cynychiolwyr cyrsiau drwy gasglu gwybodaeth o ran niferoedd ac ansawdd
  • Cynnal fforwm drafod ar-lein i hyrwyddo cyfathrebu a rhannu arferion da rhwng cynrychiolwyr cyrsiau.  Gobeithio cynyddu'r aelodaeth drwy weithgareddau codi ymwybyddiaeth ychwanegol.
  • Creu arweiniad i gynrychiolwyr cyrsiau gyda dosbarthiad ar-lein.  Bydd yr arweiniad yn cynnwys cyngor ar faterion o bryder ac enghreifftiau o arferion da.  Caiff dwy bennod ar bynciau newydd eu creu bob blwyddyn.
  • Cymorth a chyngor i undebau myfyrwyr ar gyfer cwblhau eu datganiad blynyddol.  Bydd hwn yn cynnwys creu arweiniad byr i faterion y gall undebau myfyrwyr fod eisiau eu hystyried wrth fynd ati i gwblhau eu datganiad.
  • Parhau i hyrwyddo deunyddiau "mynnwch ddweud eich dweud" sydd eisoes wedi cael eu creu.  Efallai y bydd angen trafod archebu deunyddiau newydd yn y Flywddyn Newydd.
  • Adroddiad blynyddol yn amlinellu llwyddiant yn erbyn allbwn wedi ei gyflwyno cyn cyfarfod blynyddol y grwp llywio.
  • Cyfarfod blynyddol o'r grwp llywio sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Cyllido AU Cymru ac UCMC.

Mae'r prosiect yn darparu undebau myfyrwyr â chyngor a chymorth ar sut i ddatblygu strwythurau cynrychiolwyr cyrsiau.  Fel rhan o'r prosiect hwn, 'rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru ar gyfer swyddogion myfyrwyr a chynrychiolwyr dosbarthiadau.  Am fwy o wybodaeth ynglyn â'r digwyddiadau hyn, e-bostiwch Rhys Dart, Swyddog Datybygu a Hyfforddi

'Rydym hefyd yn datblygu arfau newydd ar gyfer swyddogion myfyrwyr, ac 'rydym yn gobeithio gallu cyhoeddi hwn yn fuan.  Gwyliwch allan am fwy o wybodaeth.