Your account

Hi, You're not registered!

Site search

Site Content

Marciwch fy ngwaith, nid fy enw

Higher Education

Marciwch fy ngwaith, nid fy enw

Mae marcio anhysbys ar gyfer arholiadau a gwaith cwrs yn hanfodol bwysig i sicrhau cydraddoldeb a thegwch i fyfyrwyr.  Mae ymchwil yn dangos fod myfyrwyr croenddu yn derbyn marciau is na'u cyfoedion croenwyn.  Mae myfyrwyr lesbiaidd, hoyw a thraws yn dweud fod eu gwaith cwrs wedi cael ei farcio'n annheg oherwydd eu rhywioldeb neu fynegiant rhyweddol.

Mae UCM ac undebau myfyrwyr wedi bod yn galw am farcio anhysbys ers 1999 ac maent wedi bod yn llwyddiannus mewn llawer o sefydliadau addysg uwch.  'Rydym hefyd wedi derbyn cymeradwyaeth gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, undebau athrawon, a'r Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal.

Mae yno gydnabyddiaeth cynyddol o'r angen am farcio anhysbys ledled y sector addysg uwch.  Serch hynny, mae rhai sefydliadau yn parhau i weithredu dulliau annheg o farcio.

Yn Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2007, nododd 40 y cant o'r rheiny a ymatebodd eu bod yn anfodlon ag adborth ac asesiad.  Credwn ei bod yn amser i hynny newid.

  • Find this useful?

Beth yw marcio anhysbys?

Marcio anhysbys yw system o asesu lle mae enw'r myfyriwr yn anhysbys i'r marciwr.  Gellir defnyddio'r dull yma ar gyfer arholiadau ysgrifenedig ac ar gyfer mathau eraill o asesu.  Mae yno wahanol ffyrdd o weithredu marcio anhysbys.  Ymhlith y rhai mwyaf cyffredin mae marcio drwy ddefnyddio rhifau, côd-bar, marcio dwbl, a marcio allanol neu gan ymwelydd.

Sut y gallwch chi gyfranogi

  • Canfod pa systemau marcio sydd mewn lle yn eich sefydliad.  Os oes marcio anhysbys mewn lle, holwch os yw yn perthyn i bob math o asesiad.
  • Dosbarthu holiadur i gasglu barn myfyrwyr ar degwch cynlluniau marcio a weithredir ar hyn o bryd.
  • Canfod os oes cwynion wedi cael eu gwneud i'ch hundeb myfyrwyr ynglyn â marcio camwahaniaethol ac os yw eich hundeb wedi rhedeg ymgyrchoedd yn y gorffennol.
  • Codi ymwybyddiaeth ynglyn â marcio anhysbys drwy osod posteri ac annog myfyrwyr i lenwi cerdyn-post â'i anfon i'ch Is-Ganghellor neu Brifathro.  Gallwch archebu defnyddiau oddi wrthym ni.