Your account

Hi, You're not registered!

Site search

Site Content

Lawnsio Menter Ymgysylltiad Myfyrwyr Cymru yn y Senedd

Higher Education

Lawnsio Menter Ymgysylltiad Myfyrwyr Cymru yn y Senedd

Ar 12fed Hydref, daeth swyddogion myfyrwyr a chynrychiolwyr o bob rhan o’r sector Addysg Uwch yng Nghyrmu ynghyd yn y Senedd ar gyfer lawnsio datganiad ar y cyd ar ymgysylltiad myfyrwyr mewn addysg uwch, yng ngofal y Gweinidog Addysg, Jane Hutt AC.

  • Find this useful?

Croesawodd Mr Roger Thomas, Cadeirydd Cyngor CCAUC bawb i’r digwyddiad a chyflwynodd y siaradwyr.  Aeth y Gweinidog ati i ganmol y sector am weithio mewn partneriaeth i hyrwyddo’r fenter hon, gan ddwyn sylw at bwysigrwydd ymgysylltiad myfyrwyr ar bob lefel o addysg; aeth ymlaen i ail-gadarnhau ei hymrwymiad i degwch a chyfiawnder cymdeithasol. 

Traddododd Katie Dalton, Llywydd UCMC, araith oedd yn rhoddi sylw penodol i bywsigrwydd ymgysylltiad myfyrwyr.  Traddodwyd araith gan Anthony McClaren, Prif Weithredwr newydd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd hefyd, ar ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf ers iddo ddechrau yn y swydd.


Dywedodd Katie Dalton, Llywydd UCMC:

“Hoffai UCMC diolch i’r Gweinidog am gynnal y digwyddiad ac am gefnogi’r fenter.  Hoffem hefyd diolch i GCAUC am gyllido’r prosiect, ac i’r cyrff eraill o fewn i’r sector sydd wedi bod yn rhan o ddatblygiad Menter Ymgysylltiad Myfyrwyr Cymru. 

‘Roedd yn wych gweld cynifer o Lywyddion, Swyddogion Addysg a Rheolwyr Cyffredinol UM yn y digwyddiad, yn ymuno â chynrychiolwyr prifysgolion i hyrwyddo ymgysylltiad myfyrwyr ar bob lefel o addysg uwch.”