Your account

Hi, You're not registered!

Site search

Site Content

Manteision bod mewn Aelodaeth

Manteision bod mewn Aelodaeth

NUS works for students' unions who work for students

Ar hyn o bryd, mae tua 600 o unbebau myfyrwyr ledled y wlad yn aelodau o UCM, gan gynrychioli buddiannau dros saith miliwn o fyfyrwyr mewn addysg bellach ac uwch

Pwy all ymuno ag UCM?

Mae eich hundeb myfyrwyr yn penderfynu ymaelodi ag UCM ar sail barn yr aelodau unigol.  Mae Ymaelodi ag UCM yn galluogi eich hundeb i fuddsoddi mewn mudiad cenedlaethol yn ogystal â manteisio ar yr amrediad eang o wasanaethau 'rydym yn eu cynnig.  Dyma rai o'r manteision a ddaw i'ch myfyrwyr pan fo'ch hundeb yn ymaelodi ag UCM:

Llais cenedlaethol cryf ac effeithiol

Fel grwpiau eraill megis nyrsys ac athrawon, mae myfyrwyr angen llais cenedlaethol i sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli'n llawn.  Mae UCM yn bodoli i hyrwyddo, amddiffyn ac ymestyn hawliau myfyrwyr.

O addysg ddi-dâl i brescripsiwn am ddim, o hawliau myfyrwyr anabl i'r rheiny sydd mewn llety ar rent tra'u bod yn astudio, byddwn wastad yn gosod buddiannau myfyrwyr wrth galon ein gweithgareddau wrth i ni ymgyrchu dros newid.

Mae nifer cynyddol o undebau myfyrwyr yn penderfynu bod yn aelodau o UCM yn bennaf oherywdd y gynrychiolaeth a'r gefnogaeth yma.

Gyda mwy na phedwar-ugain mlynedd o brofiad ymgyrchu, gallwn wneud y gorau o'ch hymgyrchoedd drwy lobïo ar raddfa genedlaethol a threfnu cynrychiolaeth swyddogol i gyrff cenedlaethol.  Byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o ymgyrchoedd UCM ymhlith gwleidyddion a pharhau i wella ein perthynas gyda'r cyfryngau.

Cynyddu gallu undebau myfyrwyr

Ein nod yw gwneud pob undeb myfyrwyr mor gryf a gweithgar â phosibl, gan adeiladu sgiliau, cefnogi swyddogion unigol a gweithredu ar lefel genedlaethol i amddiffyn eu statws a'u hanibyniaeth.

'Rydym yn helpu undebau yn eu gwaith drwy'r ymchwil 'rydym yn ei wneud, yr hyfforddiant 'rydym yn ei gynnig i swyddogion myfyrwyr, y defnyddiau 'rydym yn eu cynhyrchu a'r dogfennau 'rydym yn eu cyhoeddi.  Mae hyn i bob diben fel bod â thîm ychwanegol o fwy na 50 o staff a 25 o swyddogion etholedig i gynorthwyo eich myfyrwyr a'ch hundeb myfyrwyr.

Cymorth i fyfyrwyr wrth ganfod eu traed

Mae UCM yn darparu gwsanaethau yn uniongyrchol i fyfyrwyr unigol drwy ein gwefan, nus.org.uk, ar ffurf gwybodaeth ac adnoddau sy'n berthnasol i bob myfyriwr.  Mae hyn yn cynnwys cyngor ar dai a llety, cyllid myfyrwyr, setlo i mewn a wythnos y Glas, amrywioldeb a llawer o bynciau eraill.

Cynnig bargeinion i fyfyrwyr drwy gardiau NUS Extra

Mae cerdyn NUS Extra yn cynnwys dros 80 o ostyngiadau cenedlaethol, sydd ar gael ar-lein neu ar y stryd fawr, ac amcangyfrifir ei fod yn arbed cymaint â £189 y flwyddyn ar gyfartaledd i bob myfyriwr unigol.

Mae ymchwil annibynnol a gynhaliwyd yn ystod 2006/07 wedi canfod fod 80% o ddeiliaid cerdyn NUS Extra yn fodlon â'r gwasanaeth, ac y byddent yn argymell y cerdyn i ffrindiau.  Yn ogystal â hyn, drwy godi tâl bychan, mae NUS Extra yn darparu incwm i undebau myfyrwyr.

Gwneud i'ch harian fynd ymhellach drwy Wasanaethau UCM

Mae Gwasanaethau UCM, sef cangen fasnachol UCM, yn prynu ar y cyd er mwyn cadw prisiau'n isel a denu cwmnïau mawrion i hyrwyddo eu nwyddau er budd bariau, bwytai a siopau mewn undebau myfyrwr.

Gall yr arbedion a wneir o ganlyniad i fargeinio cenedlaethol gan gwmni Gwasanaethau UCM ar nwyddau megis cwrw, gwinoedd a gwirodydd, fod gymaint - neu hyn yn oed yn fwy - na thâl ymaelodaeth ag UCM, sydd i bob diben yn golygu y gallwch ymaelodi ag UCM am ddim.

Llynedd, 'roedd rhanddalwyr Gwasanaethau UCM ar eu budd o £5.3miliwn.  Daeth yr elw yma yn sgil prynu, masnachu trwyddedig, adwerthu, adloniant a ffioedd ymaelodaeth.