Mae ein nerth a'n cyfeiriad at y dyfodol yn dibynnu ar allu ein swyddogion. Po fwyaf o bobl sy'n sefyll etholiadau, gorau yn y byd fydd ansawdd ein democratiaeth.
Beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd, boed rôl fel swyddog o'r PGC, aelod o bwyllgor neu swydd ranbarthol, 'rydym yn eich hannog i ystyried ymgeisio.
Yn ystod y Gynhadledd Flynyddol, cynhelir etholiadau ar gyfer 18 o'r 27 o swyddi ar y PGC. Dyma'r swyddi etholedig llawn-amser:
- Llywydd Cenedlaethol
- Trysorydd Cenedlaethol
- Ysgrifennydd Cenedlaethol
- Is-Lywydd Addysg
- Is-Lywydd Addysg Bellach
- Is-Lywydd Lles
Caiff y 12 swyddog heb bortffolio ar y PGC hefyd eu hethol yn y Gynhadledd Flynyddol. Etholir yr aelodau eraill o'r PGC mewn Cynadleddau Rhyddhad a Chynadleddau Arbennig.
Rhaid i enwebiadau gyrraedd pencadlys UCM erbyn 5:00pm ar ddyddiad cau'r enwebiadau (wyth wythnos lawn cyn diwrnod cyntaf y Gynhadledd Fynyddol).
Nid yw cyfranogi yng ngweithgareddau un o bwyllgorau niferus UCM yn mynnu cymaint o'ch hamser ag aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol, felly gall fod yn ffordd dda o gyfuno cynrychiolaeth genedlaethol â'ch hymrwymiadau lleol.