Bargeinion arbennig
Gallwn gynnig gostyngiadau ar y pethau angenrheidiol mewn bywyd, yn ogystal ag arbed arian i chi ar y pethau hynny sy'n gwneud bywyd yn fwy diddorol. O Amazon, Ticketmaster a CD Wow i Ysgol Yrru'r AA, Superdrug a McDonalds, gallwch wneud arbedion bob tro y byddwch yn gwario.
Mae'r bargeinion hyn i gyd yn arbennig ar gyfer pobl sydd â cherdyn NUS Extra, felly ni allwch gael gafael arnynt heb ein cerdyn bach glas.
Y manteision
Mae nifer sylweddol o ostyngiadau, cynigion a chystadlaethau wedi cael eu cyd-drefnu'n arbennig ar gyfer deiliaid cardiau NUS Extra. Byddwch rhyfeddu at yr arian y gallwch ei arbed gyda'ch cerdyn NUS Extra.
'Rydym wastad yn diweddaru ein cynigion, yn ogystal ag ychwanegu rhai newydd, ac 'rydym ym yn gwneud yn sicr fod yno lwyth o wobrau cyffrous a chynigion arbennig ar gael i chi gydol y flwyddyn.
Mae eich hundeb myfyrwyr ar ei ennill hefyd!
Mae eich hundeb myfyrwyr hefyd ar ei ennill o werthiant cardiau, gan fod bron i £5 o'r £10 y byddwch yn ei dalu yn mynd yn ôl i'r undeb, fel y gall fuddsoddi mewn mwy o wasanaethau, gweithgareddau, clybiau a digwyddiadau ar eich cyfer chi. Felly mae prynu'r cerdyn o fantais i chi mewn mwy nag un ffordd!
12 mis o fargeinion nefolaidd
Mae cerdyn NUS Extra yn ddilys rhwng 1 Medi 2008 a 31 Awst 2009, felly mae yno ddigonedd o amser i chi arbed arian pan fyddwch yn prynu'r cerdyn.
Faint mae'n gostio?
Pris NUS Extra yw £10, sydd ddim yn ddrwg am rywbeth sy'n mynd i arbed llwyth o arian i chi gydol y flwyddyn.
Dim ond myfyrwyr sy'n gymwys i brynu'r cerdyn
Dim ond myfyrwyr all gael gafael ar gerdyn NUS Extra. Gallwch naill ai brynu arlein a chasglu'r cerdyn o'ch hundeb myfyrwyr, neu ymwelad â'ch hundeb a gofyn am gael prynu'r cerdyn.
Cardiau Democratiaeth
Gall cerdyn Democratiaeth UCM fod ar gael am ddim, yn lle cerdyn coleg neu undeb lleol. Nid yw'r cerdyn Democratiaeth yn gerdyn gostyngiad. Os yw eich hundeb neu goleg yn eich darparu â cherdyn myfyriwr, ni fyddwch angen cerdyn Democratiaeth, ac o'r herwydd mae'n bosibl na fydd rhai ar gael yn eich hundeb.
Mae'r cerdyn Democratiaeth ar gael drwy undebau myfyrwyr sydd mewn aelodaeth o UCM, ac mae'n gweithredu fel cerdyn adnabyddiaeth ar gyfer myfyrwyr. Mae'r cerdyn yn cadarnhau eich haelodaeth o'ch hundeb lleol, er mwyn caniatáu mynediad i gyfleusterau'r undeb hwnnw; mae hefyd yn eich galluogi i bleidleisio yn etholiadau eich hundeb, yn ogystal â chyfranogi yn nigwyddiadau democrataidd UCM, megis y gynhadledd flynyddol.
Nid yw'r cerdyn Democratiaeth yn darparu unrhyw ostyngiadau pris na chynigion arbennig.
Felly, os ydych chi eisiau gostyngiadau pris a chynigion gwych gydol y flwyddyn, cystadlaethau arbennig, a'ch bod hefyd eisiau helpu eich hundeb myfyrwyr, gwnewch yn sicr eich bod yn prynu cerdyn NUS Extra heddiw!