Strwythur UCMC
Mae UCMC yn 'rhanbarth arbennig' hunan-reolus o fewn UCM DU. Mae hyn yn golygu bod UCMC yn llunio polisiau ein hunain, yn ethol pwyllgor gwaith ein hunain, ac yn ymgyrchu ar faterion sydd yn effeithio ar fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru.
Yn ogystal â'r Pwyllgor Gwaith Cymreig, mae gan UCMC 5 aelod o staff parhaol er mwyn cynorthwyo gwaith y mudiad.
Mae cyllid UCMC am y flwyddyn yn cael ei benodi yng Nghynhadledd Flynyddol UCM DU, ond Pwyllgor Gwaith Cymru sydd yn rheoli gwariant. Mae rheolwr UCMC yn rheoli ariannu a staff UCMC, ac mae'r cyfarwyddwr hefyd yn aelod o Dîm Rheoli UCM DU.
Hanes UCMC
Sefydlwyd UCMC ym 1974, ac un o brif ymgyrchoedd y mudiad am amser hir oedd dros ddatganoli, a gwthio'n galed am y bleidlais 'IE' lwyddiannus ym 1997. Heddiw, 'rydym yn mwynhau ffrwyth ein gwaith caled drwy'n perthynas adeiladol gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae'r dyfodol yn cynnig sawl her i fudiad y myfyrwyr. Mae'n haelodaeth yn newid yn gyflym. Mae myfyrwyr heddiw yn wynebu bygythiadau gwahanol iawn i'r rhai a wynebwyd gan eu rhagflaenwyr ddeg-mlynedd-ar-hugain yn ôl, ond mae UCMC yn parhau i weithio tuag at greu system addysg sydd yn darparu cyrsiau o ansawdd uchel, yn datblygu dysgwyr fel unigolion, ac yn amddiffyn myfyrwyr rhag caledi, camwahaniaethu ac afiechyd.
Swyddogion UCMC
Llywydd: Katie Dalton
Y Llywydd yw wyneb cyhoeddus UCMC. Mae’n gyfrifol am gynnal a hyrwyddo ein polisïau a chynrychioli myfyrwyr Cymru i’r Cynulliad, y Senedd, a mudiadau ac unebau allanol eraill. Etholwyd y Llywydd yng Nghynhadledd y Gwanwyn ac mae’n arwain Pwyllgor Gwaith Cymru trwy gynnal ymgyrchoedd, lobïo a chydlynu ag Undebau Myfyrwyr. Mae'r Llywydd hefyd yn cynrychioli myfyrwyr Cymru i UCM a chyrff ledled y DU.
Dirprwy Lywydd: Lleu Williams
Mae'r Dirprwy Lywydd yn gyfrifol am gyllid a chyfathrebu UCMC, ynghyd â’n polisi hyfforddiant. Mae Lleu yn gyfrifol am gynorthwyo’r Swyddog Datblygu a Hyfforddi gyda datblygiad undebau Addysg Bellach a bydd yn dirprwyo yn absenoldeb y Llywydd.
Mae’r Dirprwy Lywydd, a etholir yng Nghynadledd y Gwanwyn, yn swyddog sabathol llawn-amser. Ei brif feysydd gwaith yw Lles ac ymgyrchoedd Addysg Bellach.
Swyddog y Menywod: Estelle Hart
Mae Estelle yn cynullio a chydlynu gwaith Pwyllgor ac Ymgyrch y Menywod yng Nghymru. Etholwyd yng Nghynhadledd Menywod UCMC, mae hi’n gyfrifol am lobïo a datblygu polisi ar faterion menywod. Prif ddiben y swydd, fodd bynnag, yw i gynrychioli, hysbysu a rhoi grym i fyfyrwyr sy’n fenywod trwy Gymru gyfan. Mae hi hefyd yn eistedd ar Bwyllgor Menywod Cenedlaethol y DU.
Cysylltwch â ni
Ymholiadau
UCMC
13, Cilgant Lambourne
Parc Business Caerdydd
Llanishen,
Caerdydd
CF14 5GF
Ffon: (029) 2068 0070
Ffacs: (029) 2075 7083
ebost: office@nus-wales.org.uk
Swyddogion Sabathol
Llywydd: Katie Dalton
Ffôn: (029) 2068 0070
ebost: katie.dalton@nus-wales.org.uk
Dirprwy Lywydd: Lleu Williams
Ffôn: 029 2068 0070
ebost: lleu.williams@nus-wales.org.uk
Swyddog y Menywod: Estelle Hart
Ffôn: 029 2068 0070
ebost: estelle.hart@nus-wales.org.uk
Ein Lleoliad
Mae swyddfa UCMC wedi'i lleoli yn Llanisien, taith fer ar y trên o ganol Caerdydd.
'Rydym tua 500m o orsaf tren Ty Glas sydd ar linell-rheilffordd Coryton, ac mae'r swyddfa ar Gilgant Lambourne, ger adeilad City & Guilds.